'Hunllef' teulu bachgen sydd yn yr ysbyty ym Mhortiwgal sy'n 'brwydro' i hedfan adref
Mae bachgen ifanc sydd yn wael yn yr ysbyty ym Mhortiwgal wedi dioddef "naw diwrnod arteithiol" wrth iddo ef a'i deulu ddisgwyl i hedfan yn ôl i Gymru.
Fe wnaeth Theo Jones, sy'n ddwy oed ac o Faesteg, ddechrau teimlo’n wael ar ôl cwympo a tharo ei ben yn y fflat yr oedd y teulu yn ei aros ynddo, yn Cabanas de Tavira, yn yr Algarve.
Fe ddigwyddodd y damwain ar ddydd Mercher 13 Medi, ar drydydd diwrnod gwyliau tair wythnos.
Fe wnaeth Theo ddechrau chwydu 20 munud ar ôl iddo gwympo, ac fe benderfynodd ei rieni, Paul a Sarah Jones, ffonio am ambiwlans.
Cafodd ei gludo i’r ysbyty yn ninas Faro, cyn iddo gael ei ryddhau gan ddoctoriaid yr un diwrnod.
Ar ôl dychwelyd i’r fflat, fe wnaeth cyflwr Theo waethygu. Roedd yn wan, ddim yn gallu cerdded a ddim yn dymuno cael ei roi i orwedd gan ei rieni.
Fe wnaeth ei rieni ei gludo i’r ysbyty ar y dydd Iau. Yno, fe gafodd profion meddygol cyn cael ei anfon yn ôl unwaith eto, gyda’r doctoriaid yn credu ei fod yn dioddef gyda ffliw feiral yn y stumog neu gastroenteritis.
“Roeddwn ni’n anghyfforddus gyda’r penderfyniad,” meddai Sarah Jones, mam Theo, wrth Newyddion S4C.
“Doedd y doctoriaid ddim yn credu ei fod angen profion ymhellach, ond roedd e’n wan iawn.”
Ar fore dydd Gwener, doedd Theo ddim yn ymateb i ymdrechion ei rieni i’w deffro.
“Prin oedd yn agor ei lygaid, a doedd e ddim yn gallu siarad gyda ni, felly penderfynon ni ffonio am ambiwlans unwaith eto,” ychwanegodd Mrs Jones.
'Poenus'
Yn dilyn profion a sganiau meddygol pellach dros y dyddiau nesaf, daeth doctoriaid i’r casgliad fod Theo yn dioddef o cerebellitis, firws sydd yn ymosod ar ei ymennydd.
Nid yw’r doctoriaid yn credu fod y salwch yn gysylltiedig â’r cwymp, gan fod y symptomau yn rhai sydd yn gysylltiedig â firws.
“Y realiti yw ein bod ni’n dal pen ein mab lan fel ei bod yn gallu bwyta,” meddai Sarah Jones.
“Dyw e ddim yn gallu eistedd lan ac yn sicr ddim yn gallu cerdded, na siarad.
“Ac mae’n siaradwr da fel arfer, am blentyn sy’n ddwy flwydd ac wyth mis o oedran, sydd yn gwneud yr holl brofiad yn fwy poenus fyth. Mae e’n ceisio gwneud ond ddim yn gallu.
“Mae e’n deall popeth ry’n ni’n ei ddweud, ac mae e mor rhwystredig ac ofn. Mae e wedi cael naw diwrnod arteithiol - artaith pur.”
‘Blaenoriaeth’
Mae tad Theo, Paul, yn yr ysbyty drwy’r amser tra bod Sarah yn dychwelyd yno pob dydd.
Mae rhieni Sarah, sydd hefyd ar wyliau ym Mhortiwgal, yn edrych ar ôl eu merch pum mis oed, Mali, tra bod Paul a Sarah yn gofalu am Theo ac yn ceisio gwneud trefniadau i ddychwelyd adref.
Mae doctoriaid wedi nodi gwellhad bychan yn ei gyflwr, ac ar ddydd Mawrth fe wnaethon nhw argymell i’r cwmni sydd yn darparu yswiriant teithio i’r teulu, AXA Partners, fod Theo bellach yn ddigon iach i hedfan yn ôl i Gymru ar hediad meddygol neu ambiwlans awyr.
Dywedodd Sarah Jones nad oedd hi’n deall pam ei fod yn cymryd cyhyd i Axa Partners i sicrhau eu bod nhw’n cael mynd adref i Gymru.
“Dyw e ddim yn gwneud unrhyw synnwyr,” meddai. “Mae e yn wir yn hunllef.”
Dywedodd llefarydd ar ran y cwmni ysweiriant AXA Partners eu bod nhw’n gweithio i sicrhau bod y teulu yn gallu dychwelyd.
"Mae'n ddrwg iawn gennym i glywed am salwch mab Mr a Mrs Jones ac rydym yn cydymdeimlo a'u sefyllfa,” medden nhw.
"Ein blaenoriaeth yw sicrhau fod y teulu yn gallu dychwelyd i'r DU ar amser addas, ac rydym yn gweithio gyda'r cyfleuster sy'n darparu'r driniaeth i sicrhau fod eu mab yn derbyn y gofal sydd ei hangen arno.
"Ar hyn o bryd, mae gweithwyr meddygol proffesiynol yn monitro ei gyflwr ac rydym yn paratoi am iddo i ddychwelyd i'r DU.
“Rydym mewn cyswllt cyson gyda Mrs Jones, sydd yn derbyn cefnogaeth gan dîm arbenigol."
Ers hynny, mae’r teulu wedi bod mewn cyswllt dyddiol gyda’r cwmni a dweud ei fod wedi derbyn “negeseuon cymysg”’ wrth iddyn nhw dal i ddisgwyl i hedfan i Gaerdydd.
“Mae’r doctoriaid yn meddwl ei fod yn gwella yn araf iawn, ond dyna beth sydd i’w disgwyl gyda’r cyflwr yma,” meddai Sarah Jones.
“Maen nhw wedi dweud y gallai fod yn broses hir dymor i wella o’r salwch a does dim sicrwydd ohono yn gwella yn 100%.
“Fe wnaeth y cwmni yswiriant gadarnhau fod yr yswiriant yn ddilys ddydd Llun, ond mae hi’n ddydd Gwener bellach.
“Fe wnaeth y doctoriaid anfon adroddiad meddygol atyn nhw ddydd Mawrth yn cadarnhau ei fod yn iawn i hedfan ar awyren feddygol neu ambiwlans awyr.
“Ond erbyn i ni siarad gydag AXA ddydd Iau, fe ddywedon nhw eu bod nhw eisiau disgwyl 48 awr yn rhagor.
“Y peth olaf ry’n ni eisiau gwneud yw ei roi mewn perygl. Os fyddai’r doctoriaid yma yn dweud eu bod nhw eisiau ei gadw yn yr ysbyty am 48 awr yn rhagor, mi fyddan ni’n derbyn hynny. Ond nid dyna mae’r doctoriaid yma yn ei ddweud.
“Rydw i’n teimlo’n numb ar ôl bod ar y ffôn gyda nhw gymaint o weithiau gyda nhw. Mae e'n teimlo fel ein bod ni'n brwydro i gyrraedd gartref.”
'Eisiau ail farn'
Mae’r teulu hefyd wedi trefnu gofal i Theo unwaith y bydd yn cyrraedd yn ôl yng Nghymru, yn Ysbyty Athrofaol Cymru, ble mae’r doctoriaid wedi bod mewn cyswllt â doctoriaid yn Ysbyty Faro.
“Mae Ysbyty’r Heath wedi bod yn wych,” meddai Sarah Jones.
“Mae’r gefnogaeth ry’n ni ‘di derbyn ganddyn nhw, maen nhw di derbyn yr holl nodiadau meddygol gan yr ysbyty yma, yn barod iddo gael ei drosglwyddo.
“Dim ond dyddiad ac amser maen nhw angen, ac mi fydd na wely ar gael. Maen nhw ‘di trefnu gwely i ninnau hefyd, fel rhieni.
“Yr unig beth ry’n ni angen i [Axa] ei wneud yw trefnu’r hediad. Dyna fe - allwn ni wneud y gweddill.
“Ni dal ddim yn gwybod y darlun llawn. Mae'n rhaid i ni ymddiried yn y diagnosis maen nhw wedi ei roi, oherwydd does dim dewis ‘da ni.
“Ond rydyn ni eisiau ail farn, ac rydyn ni eisiau iddo fe gael rhagor o sganiau yn y sganwyr orau sydd ar gael.
“Mae hyn yn beth mor ofnadwy i ddigwydd i ni fel teulu. Rydym wedi cael cannoedd o negeseuon yn ein cefnogi ac mae hynny wedi bod yn anhygoel, ond rydym yn dal yn ei chael hi’n anodd iawn i brosesu beth sydd wedi digwydd.”