Newyddion S4C

Dŵr Cymru yn gosod targed allyriadau carbon net sero erbyn 2040

Newyddion S4C 06/06/2021

Dŵr Cymru yn gosod targed allyriadau carbon net sero erbyn 2040

Mae Dŵr Cymru wedi gosod targed newydd i gyflawni allyriadau carbon net sero erbyn 2040.

Fel un o ddefnyddwyr ynni mwyaf Cymru, mae'r cwmni yn ymateb i'r argyfwng newid hinsawdd.

Mae'r cwmni wedi buddsoddi £50m mewn gweithdy newydd ym Mro Morgannwg sy'n defnyddio gwastraff mae'r cwmni yn eu trin i greu egni.

Mae'r gweithdy yn creu nid yn unig digon o ynni i bweru ei hun, ond digon i bweru bron i 5,000 o dai bob blwyddyn hefyd. 

Dywedodd Marc Davies, Pennaeth Trin Dŵr Gwastraff, Dŵr Cymru: "Mae Dŵr Cymru yn un o'r defnyddwyr mwyaf o ynni yng Nghymru... felly ni'n gweld bod e'n ddyletswydd arno ni i drial bod mor hunan gynhaliol a allwn ni fod ynglŷn â carbon a ynni.

"Bydd e'n dipyn o her i ni gyflawni'r targedau yna, ond fel ni 'di gweld, ni wedi lleihau 65% o'r carbon ers 2010, felly ni yn ffyddiog fyddwn ni'n gallu cwrdd â'r targedau yma."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.