Arwyddion 20mya yn araf yn ymddangos gan greu 'dryswch'
Mae cyn-arweinydd cyngor wedi cwyno bod arwyddion 20mya wedi bod yn araf yn ymddangos ledled ei sir gan greu "dryswch" i yrwyr.
Newidiodd y terfyn cyflymder 20mya mewn nifer o ardaloedd preswyl yng Nghymru o 30mya i 20mya ddydd Sul.
Ond mae Llywodraeth Cymru yn ddibynnol ar gynghorau lleol i newid yr arwyddion, gyda nifer heb eu newid eto.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Dinbych fod angen newid dros 500 o arwyddion yn y sir yn unig a byddai yn cymryd amser.
Ond roedd Llywodraeth Cymru wedi rhoi gormod o bwysau ar gynghorau lleol yn ôl y cynghorydd annibynnol Hugh Evans a oedd yn arweinydd y cyngor nes y llynedd.
"Ar fore dydd Sul roedd hi'n ffordd 20mya rhwng Llanfair and Ruthun, ond roedd yr arwydd yn parhau i ddweud 30mya,” meddai.
“Roedd angen gwell cynllun a mwy o feddwl am sut oedd hyn yn mynd i gael ei wireddu.
“Mae’r adnoddau sydd wedi bod ar gael i gynghorau wireddu polisi Llywodraeth Cymru wedi bod yn rhy gyfyng.
“Mae’r cyhoedd wedi drysu ar nifer o ffyrdd lle nad yw’n amlwg a ydyn nhw’n 20 neu’n 30mya.
“Rydw i’n cytuno gyda’r terfyn ar ffyrdd dinesig ac mewn trefi ond mae’r terfyn wedi ei ymestyn y tu allan i bentrefi. Mae hynny’n wleidyddiaeth ddiog.”
‘Achub bywydau’
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Ddinbych eu bod nhw’n “gweithio yn galed” i newid cannoedd o arwyddion.
“Mae llawer o’r gwaith eisoes wedi ei gwblhau ac rydyn ni’n disgwyl i fwyafrif y gwaith gael ei gwblhau heddiw.
“Rydyn ni’n annog pobol i ymweld â thudalen Llywodraeth Cymru i weld map digidol o’r holl ardaloedd sydd wedi eu heffeithio gan y newidiadau.”
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod nhw’n “cydnabod ei fod yn newid mawr”.
“Rydyn ni’n anochel yn wynebu rhai heriau, ond mae’r dystiolaeth yn glir – mae cyflymderau arafach yn achub bywydau.”