'Mae pris disel ar fin neidio': Rhybudd i yrwyr
Mae rhybudd y bydd prisiau tanwydd yn cynyddu wrth i gost casgen o olew agosáu at 100 doler.
Dywedodd yr asiantaeth foduro'r RAC, fod gyrwyr yn wynebu “amser caled” wrth i brisiau olew gynyddu.
Daw'r cynnydd wrth i'r galw am olew gynyddu yn Tsiena ac ar ôl gostyngiad yng nghynnyrch Sawdi Arabia a Rwsia.
Ddydd Llun fe wnaeth pris olew crai godi i 94 doler y gasgen – y pris uchaf ers canol mis Tachwedd 2022.
Mae pris cyfartalog litr o betrol eisoes wedi codi 10c ers dechrau mis Awst i 155.5c.
Dyma’r pris uchaf ers canol mis Rhagfyr y llynedd.
'Elw'
Dywedodd llefarydd tanwydd yr RAC, Simon Williams: “Mae pris disel ar fin neidio o’i bris presennol sef 159c y litr ar gyfartaledd i dros 170c.
“Ond mae’r sefyllfa gyda phetrol yn wahanol gyda data'r RAC yn dangos bod prisiau mewn gwirionedd yn rhy uchel oherwydd bod manwerthwyr yn cymryd mwy o elw nag arfer.
“Pe baen nhw’n chwarae’n deg gyda gyrwyr, fe fydden nhw’n gostwng eu prisiau yn hytrach na’u codi.
“Fodd bynnag, pe bai olew yn cyrraedd 100 doler, ddylai pris cyfartalog petrol ond godi 2c mewn gwirionedd.
“Ond os yw manwerthwyr yn parhau i fod yn benderfynol o wneud mwy o arian y litr gyda mwy o elw yna fe allai hyn fod yn agosach at 160c.”