Gwaharddiad pêl-droed am droseddau casineb i ddyn 32 oed o Wynedd
Mae dyn 32 oed o Wynedd wedi derbyn Gorchymyn Gwaharddiad Pêl-droed am dair blynedd yn sgil troseddau casineb ar-lein.
Fe ymddangosodd Ryan Scott Fitzgerald o Landwrog ger Caernarfon yn Llys Ynadon Caernarfon ddydd Llun.
Roedd y cyhuddiad yn ymwneud â neges hiliol ar-lein a gafodd ei hysgrifennu gan Fitzgerald ar 12 Mai eleni.
Ar ôl cyhoeddi neges ar ei gyfrif cyhoeddus ar wasanaeth X [Twitter], fe wnaeth Fitzgerald gyfaddef fod y sylwad wedi ei anelu at berchennog Sheffield Wednesday Dejphon Chansiri, sydd o dras Thai.
Roedd y neges yn cynnwys iaith hiliol a sarhaus, ac fe gafodd ei chyhoeddi ar-lein ychydig wedi i'r tîm Adran Un golli yn erbyn Peterborough United.
Daeth Heddlu Gogledd Cymru yn ymwybodol o'r digwyddiad yn dilyn adroddiad gan Uned Plismona Pêl-droed y DU (UKFPU).
Mae amodau'r gwaharddiad yn golygu na fydd Fitzgerald yn cael mynychu unrhyw gemau pêl-droed yn y DU am gyfnod o dair blynedd.
Cafodd hefyd orchymyn i dalu dirwy o £365.
Dywedodd yr Uwch-arolygydd Simon Barrasford: “Ni ddylai unrhyw un ddioddef unrhyw fath o gamdriniaeth hiliol neu grefyddol.
"Fe wnaeth Fitzgerald dargedu perchennog clwb pêl-droed ar sail ei ethnigrwydd, ac roedd yn amlwg fod hyn yn drosedd casineb wedi ei hysgogi gan hiliaeth."