Newyddion S4C

Galw eto ar Lywodraeth Cymru i adeiladu ffordd osgoi Llandeilo

15/09/2023
llandeilo

Mae cynghorwyr Sir Gaerfyrddin wedi annog Llywodraeth Cymru i anrhydeddu cytundeb rhwng Plaid Cymru a Llafur ac adeiladu ffordd osgoi o amgylch Llandeilo.

Mewn cyfarfod o'r cyngor ddydd Mercher cynigiodd y cynghorwyr Edward Thomas a Hefin Jones, gynnig i annog Llywodraeth Cymru anrhydeddu’r cytundeb.

Dywedodd arweinydd y cyngor, Darren Price o Blaid Cymru, fod cefnogaeth aruthrol i'r ffordd osgoi yn y sir.

Roedd methu â chadw at gytundeb 2016-17 rhwng y ddwy Blaid, yn tanseilio cydweithio trawsbleidiol, meddai.

“Dydw i ddim eisiau gweld hynny’n digwydd,” meddai.

Bu galwadau am ffordd osgoi ers degawdau, a chwe blynedd yn ôl neilltuwyd £50 miliwn ar gyfer un fel rhan o gytundeb cydweithredu ar lefel genedlaethol rhwng Plaid Cymru a’r Blaid Lafur.

Mae ansawdd aer yn cael ei effeithio gan loriau sy'n brwydro i basio ei gilydd ar y ffordd gefn gul drwy Landeilo, meddai'r rheini sydd o blaid y cynllun.

Beth sydd yn gyfrifol am yr oedi?

Mae Llywodraeth Cymru wedi atal pob cynllun i adeiladu ffyrdd newydd wrth iddyn nhw edrych ar ddewisiadau amgen.

Ym mis Gorffennaf eleni, dywedodd Dirprwy Gweinidog Newid Hinsawdd a Thrafnidiaeth, Lee Waters, y byddai arbenigwr trafnidiaeth a logisteg yn archwilio i lwybrau dargyfeirio posib i gerbydau nwyddau trwm (HGV).

Ond pan drafodwyd y cynnig yn Neuadd y Sir Gaerfyrddin ddydd Mercher daeth cynghorwyr i'r casgliad y byddai dargyfeiriad o'r fath yn arwain at yrwyr HGV yn chwilio am lwybrau byr ar hyd ffyrdd anaddas.

Dywedodd y Cynghorydd annibynnol Edward Thomas (yn y llun) y byddai gyrwyr lori yn teithio 30 milltir ychwanegol heb lwybr dargyfeirio.

Dywedodd y Cynghorydd Hefin Jones, sydd yn cynrychioli Plaid Cymru, fod rhai gyrwyr HGV eisoes yn defnyddio ffyrdd amhriodol pan oedd gwaith ffordd yn Llandeilo.

Ychwanegodd bod cynllun dargyfeirio ffurfiol yn annog gyrwyr i ddefnyddio ffyrdd amhriodol.

Mae llawer o fusnesau yn Llandeilo yn cefnogi ffordd osgoi newydd, ond nid pawb sydd o blaid.

Wrth siarad yn 2020, roedd rhai trigolion yn poeni am y difrod y byddai ffordd o’r fath yn ei achosi i’r dwyrain o’r dref.

Dywedodd Jon Pearson: “Byddai’n croesi’r caeau a byddai’n rhaid ei godi uwchben y gorlifdir. Mae llifogydd unwaith mewn 100 mlynedd bellach yn digwydd bob 10 mlynedd.”

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Rydym yn gweithio gyda Chyngor Sir Gaerfyrddin i gyflawni gwelliannau trafnidiaeth i’r A438 trwy Landeilo cyn gynted â phosib.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.