‘Gwarthus’: 3,000 o swyddi Tata ym Mhort Talbot yn y fantol wedi cytundeb gwerth £500m
‘Gwarthus’: 3,000 o swyddi Tata ym Mhort Talbot yn y fantol wedi cytundeb gwerth £500m
Mae arweinydd undeb wedi dweud bod y cytundeb rhwng Tata Steel a Llywodraeth San Steffan yn "warthus."
Cyhoeddodd y llywodraeth gytundeb gwerth £500 miliwn ddydd Gwener mewn ymdrech i ddatgarboneiddio safleoedd gwaith dur Tata Steel ym Mhort Talbot.
Ond dywedodd yr adran fusnes mai dim ond 5,000 o'r 8,000 o swyddi ar draws y DU oedden nhw'n gobeithio eu hachub.
Rhybuddiodd Tata Steel hefyd y byddai yna "gyfnod pontio gan gynnwys ailstrwythuro" yn y gwaith dur.
Mae disgwyl i’r ffwrneisi newydd gwerth £1.25 biliwn ym Mhort Talbot fod yn weithredol o fewn tair blynedd i gael caniatâd rheoleiddio a chynllunio.
“Mae Tata Steel UK yn cyflogi dros 8,000 o bobl, gan gynnwys ym Mhort Talbot, a byddai eu swyddi dan fygythiad difrifol heb fuddsoddiad sylweddol i warantu eu dyfodol,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth y DU.
“Diolch i ymyrraeth Llywodraeth y DU, mae disgwyl y bydd gan y cynnig a gyhoeddwyd heddiw y potensial i ddiogelu dros 5,000 o swyddi ar draws y DU.”
Ond dywedodd Ysgrifennydd Cyffredionl Unite, Sharon Graham: “Mae’r cynlluniau hyn yn warthus, yn fyr eu golwg ac yn brin o uchelgais.
“Mae dur yn ddiwydiant sylfaen ac mae’r cyfle’n cael ei golli i wneud y DU yn arweinydd byd ym maes cynhyrchu dur.
“Bydd Unite yn brwydro, ni yn unig i achub y swyddi hyn, ond i greu mwy o swyddi yn y diwydiant dur."
'Siomedig'
Dywedodd Alasdair McDiarmid, ysgrifennydd cyffredinol cynorthwyol undeb Community, wrth raglen Today nad oedd yn hapus gyda’r ffordd y mae’r cytundeb wedi digwydd.
“Ry'n ni’n hynod siomedig a blin gyda’r ffordd y mae Tata wedi gweithredu fan hyn,” meddai.
“Fe wnaethon nhw ein sicrhau i ni ar y lefelau uchaf y byddai eu trafodaethau gyda’r Llywodraeth yn cael eu cyfyngu i’w hymrwymiadau ariannol ar y cyd i gefnogi Port Talbot.
“Ac y byddai unrhyw a phob penderfyniad ar fuddsoddi a defnyddio pa bynnag dechnoleg yn cael ei wneud mewn partneriaeth â'r undebau.
“Ond o’r hyn ydan ni’n ei glywed mae Tata a’r Llywodraeth wedi dod i gytundeb, wrth aberthu miloedd o swyddi.
“Mae hynny, i ni, yn hollol annerbyniol.
“Nid dyma’r ffordd y dylai cwmnïau a’r Llywodraeth fod yn gweithredu.
“Mae Tata a’r llywodraeth wedi canolbwyntio ar gyflwyno’r cytundeb gwaethaf posib ar frys yn hytrach na’r un gorau i’r diwydiant, y gweithlu a’r wlad.”
'Methiant'
Dywedodd Stephen Kinnok AS Aberafan ei fod yn "bryderus iawn".
"Yn bennaf oherwydd bod gweinidogion wedi methu ag ymgynghori’n ddigonol â’r undebau dur Community a GMB," meddai.
“Wrth wraidd y methiant hwn mae’r ffocws dechnoleg ffwrnais arc trydan (EAF), a fydd nid yn unig yn arwain at golli mwy o swyddi nag sydd angen, ond ni fydd modd cynhyrchu’r dur sydd eu hangen i fodloni’r sbectrwm llawn o gwsmeriaid Tata.
“Mae ein cystadleuwyr Ewropeaidd yn buddsoddi mewn ystod o dechnoleg gwyrdd i wneud dur yn ogystal ag EAFs – megis hydrogen, dal llai o haearn a charbon yn uniongyrchol – sy’n rhoi hyblygrwydd iddynt fodloni galw cwsmeriaid.
“Efallai bod y buddsoddiad yn ymddangos fel llawer o arian, ond mae’n welw o’i gymharu â’r buddsoddiadau a wnaed gan lywodraethau Ewropeaidd i weithfeydd dur cystadleuol, sy’n golygu bod gwneuthurwyr dur o Brydain unwaith eto’n cael eu gorfodi i gystadlu ag un llaw wedi’i chlymu y tu ôl i’w cefnau.
“Rydym angen cynllun sy’n gwarchod y llyfr archebion presennol tra hefyd yn adeiladu ar gyfer y dyfodol, ond mae’r cynllun hwn yn brin ar y ddau gyfrif.
“Mae eithrio’r undebau dur yn fwriadol o’r holl broses hon hefyd yn siomedig iawn.”
‘Swyddi yn y fantol’
Wrth siarad â Newyddion S4C ddydd Iau dywedodd Alun Davies, sef trefnydd rhanbarthol yr undeb Community, nad oes unrhyw waith ymgynghorol wedi’i gynnal gydag undebau ynglŷn â’r cytundeb – sy’n rhywbeth “angenrheidiol,” meddai.
Mae oddeutu 4,000 o weithwyr ar safle Tata Steel ym Mhort Talbot, sef tua hanner gweithlu'r cwmni yn y DU.
Mae Mr Davies hefyd yn pryderu am adroddiadau “brawychus” sy’n ymrwymo Tata Steel i adeiladu ffwrneisi trydanol fel rhan o’r cytundeb.
Bwriad unrhyw gynllun o’r fath, fyddai ceisio mynd i’r afael ag allyriadau carbon y cwmni.
Nid dyma’r tro gyntaf i weithwyr Tata Steel wynebu ansicrwydd am ddyfodol eu swyddi.
Yn dilyn toriadau rhwng 2009 a 2016, mae eisoes dros 2,000 yn llai o weithwyr ar safleoedd Tata ym Mhort Talbot a Llanwern.
Y llynedd, fe wnaeth Tata Steel fygwth cau yn gyfan gwbl heb fuddsoddiad o £1.5 biliwn gan Lywodraeth y DU ar gyfer datblygu ffwrneisi modern.
Yn ôl yr adroddiadau diweddaraf, fe fydd y llywodraeth yn ymrwymo i fuddsoddi £500 miliwn o arian cyhoeddus yn y cwmni, gyda rhiant-gwmni Indiaidd Tata Steel yn cytuno ar wariant cyfalaf o £700 miliwn dros gyfnod o flynyddoedd.
Mae Tata Steel eisoes wedi dweud eu bod wedi “ymrwymo’n llwyr” i ymgynghori “yn ystyrlon,” a'u bod yn “barod i drafod” gyda gweithwyr ac undebau ynglŷn â’r opsiynau posib.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Rydym wedi gweithio’n agos gyda Tata ers blynyddoedd lawer i ddiogelu dyfodol hirdymor cynhyrchu dur yng Nghymru ac wedi annog Llywodraeth y DU i ddarparu’r buddsoddiad sydd ei angen i gefnogi’r symudiad i ddulliau gwyrddach o gynhyrchu dur.
“Mae hwn yn gyfnod pryderus iawn i’r gymuned gyfan ac mae’n hanfodol bod Tata nawr yn cynnal ymgynghoriad ystyrlon gyda gweithwyr a’u hundebau llafur ynglŷn â’r cynigion hyn.
“Er bod y cyhoeddiad heddiw yn cynnwys buddsoddiad sylweddol ar gyfer y tymor hirach, mae’n anochel bod gweithwyr Tata, a’u teuluoedd, yn canolbwyntio ar yr effaith a gaiff ar swyddi ym Mhort Talbot a chyfleusterau eraill Tata.
“Mae angen i ni nawr ystyried y cyhoeddiad a’r amserlen arfaethedig yn fanwl.
“Yn y cyfamser, byddwn yn parhau i weithio’n agos gyda’r undebau llafur a’r cwmni ac rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i leihau colledion swyddi.”