Newyddion S4C

Rhybudd bod arbedion cardiau aelodaeth rhai siopau yn 'gamarweiniol'

15/09/2023
Cerdyn Nectar

Gallai hyd at draean o fargeinion rhai archfarchnadoedd poblogaidd fod yn “gamarweiniol” i siopwyr, meddai cylchgrawn adnabyddus. 

Dywedodd Which? bod nwyddau rhai archfarchnadoedd yn cael eu hysbysebu gyda phrisiau “gwreiddiol” camarweiniol.

Mae nhw'n dweud bod  29% o nwyddau ar werth ar eu cost "gwreiddiol" am lai na 50% o'r chwech mis cafodd yr arolwg ei gynnal, a bod hynny'n golygu bod unrhyw ddisgownt, neu “arbedion” yn gamarweiniol. 

Ychwanegodd Which? bod  prisiau “gwreiddiol” – sef y pris heb ddefnydd o gerdyn aelodaeth – naill ai’n ddrutach na siopau eraill, neu bod cost y nwyddau wedi’u cynyddu ychydig cyn i’r bargeinion cael eu hysbysebu. 

Daw’r canfyddiadau yn sgil arolwg o 141 o “fargeinion” wrth ddefnyddio cardiau Clubcard a Nectar, a rheini’n boblogaidd ymysg siopwyr Tesco a Sainsbury’s.

Ond mae Tesco a Sainsbury’s wedi dweud nad oedd Which? wedi ystyried gwir effaith chwyddiant a'u bod yn cadw at reolau Safonau Masnach ar bob achlysur. 

Arbed? 

Nescafé Gold Blend Instant Coffee (200g) oedd un o’r nwyddau yn roedd arolwg Which? yn honni oedd â phris camarweiniol. Roedd ar werth am £6 yn Sainsbury’s gyda’r defnydd o gerdyn Nectar – arbediad o £2.10 ar y pris gwreiddiol o £8.10. 

Ond fe gafodd pris y coffi ei newid o £6 i £8.10 dau ddiwrnod yn unig gyn i’r fargen Nectar lansio, meddai Which?odd. 

Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Sainsbury’s: “Mae enghraifft Which? ynglŷn â Nescafé Gold yn esiampl o’i fethodoleg wallus; mae’r honiadau bod y  pris ‘gwreiddiol’ yn £6 yn anghywir.

“Mae cost yr eitem yma wedi bod yn £8.10 ers mis Rhagfyr 2022, ond roedd yr eitem ar werth am £6 fel rhan o gynllun hyrwyddo yn ystod y flwyddyn – gan gynnwys ar Brisiau Nectar a lansiwyd ym mis Ebrill.” 

Ychwanegodd llefarydd ar ran Tesco bod yr archfarchnad yn dilyn rheolau hyrwyddo “llym iawn.” 

Dywedodd Sue Davies,  pennaeth polisi bwyd Which?: “Wrth i gostau ‘aelodau’n unig’ parhau i gynyddu, mae angen i arferion prisio – a phwy sy’n cael eu hystyried yn gymwys ar gyfer aelodaeth – gael eu hystyried yn llawn er lles siopwyr, gan gynnwys y rheini sy’n fwyaf agored i niwed yn y gymdeithas. 

“Mae angen sicrhau eu bod yn elwa, a bod neb yn cael eu camarwain wrth brynu nwyddau na fyddan nhw wedi brynu onibai am y fargen.” 

Llun: Rui Vieira/PA Wire.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.