Newyddion S4C

Pryder y gallai hyd at 20,000 o bobl fod wedi marw wedi llifogydd yn Libya

14/09/2023

Pryder y gallai hyd at 20,000 o bobl fod wedi marw wedi llifogydd yn Libya

Mae pryder y gallai hyd at 20,000 o bobl fod wedi marw yn dilyn llifogydd dinistriol yn ninas Derna yn Libya.

Cafodd rhan sylweddol o'r ddinas ei dinistrio wedi i'r llifogydd lifo i lawr gwely afon Wadi Dirna oedd yn sych ar y pryd.

Yn dilyn glaw trwm, fe gafodd dau argae uwchben porthladd Derna eu dinistrio, gan anfon dilyw i gyfeiriad y ddinas.

Mae ymdrechion i achub pobl wedi eu cymhlethu am fod dwy lywodraeth wahanol yn hawlio rheolaeth o'r wlad.

Mae timau achub rhyngwladol wedi cyrraedd yr ardal, gyda 5,000 o farwolaethau wedi eu cadarnhau hyd yma.

Mae cymorth wedi cyrraedd gan dimau achub o'r Aifft, Twrci, Yr Eidal, Sbaen a Tunisia.

Y gred yw y bydd y nifer y marwolaethau'n cynyddu'n sylweddol dros y dyddiau nesaf.

Dywedodd Maer Derna, Abdulmenam al-Ghaithi, wrth sianel deledu Al Arabiya, y gallai’r nifer o farwolaethau yn y ddinas gyrraedd rhwng 18,000 ac 20,000 yn seiliedig ar nifer yr ardaloedd a ddinistriwyd gan y llifogydd.

Mae hyd at 10,000 o bobl ar goll ar hyn o bryd.

 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.