AS yn galw ar Lywodraeth Cymru i beidio â chyflwyno terfyn cyflymder 20mya mewn ardaloedd gwledig
Mae AS Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr wedi galw ar Lywodraeth Cymru i beidio â chyflwyno terfyn cyflymder 20mya mewn ardaloedd gwledig.
Ddydd Sul, bydd Cymru yn gostwng y terfyn cyflymder o 30mya i 20mya ar y rhan fwyaf o ffyrdd preswyl .
Wrth i Gymru ddod yn un o'r cenhedloedd cyntaf i gyflwyno'r ddeddfwriaeth, mae Jonathan Edwards, sy'n AS Annibynnol wedi dweud y gall y gost £33m gael ei wario ar wella cyflwr y ffyrdd yn lle.
Dywedodd Mr Edwards: "Dros yr haf fe wnes i ymweld â nifer o gymunedau yn Sir Gaerfyrddin i siarad gyda phobl yn uniongyrchol ac mae'r terfyn cyflymder 20mya newydd wedi cael ei godi yn gyson.
"Dwi wedi derbyn nifer mawr iawn o negeseuon gan etholwyr yn mynegi gwrthwynebiadau cryf i'r newid polisi gan Lywodraeth Cymru."
'Pwnc llosg'
Ychwanegodd Mr Edwards: "Mae'n bwnc llosg yn ein cymunedau. Mae etholwyr wedi dweud wrtha i pa mor allan o gysylltiad y mae Aelodau'r Senedd yng Nghaerdydd wrth wthio ymlaen gyda'r cynigion hyn.
"Gyda'r GIG ar ei gliniau, fy marn bersonol i ydi y dylai Aelodau'r Senedd ganolbwyntio ar sicrhau y gall pobl gael mynediad at eu meddyg teulu a deintyddiaeth gyhoeddus."
Mae Plaid Cymru, y blaid y bu Jonathan Edwards yn rhan ohoni, wedi dweud eu bod nhw'n cefnogi'r newid a bod modd i awdurdodau lleol gyflwyno eithriadau ar rai ffyrdd.
Dywedodd Aelod o Senedd Cymru dros Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr Adam Price: "Fel aelod o Blaid Cymru a'r Senedd, dwi'n cefnogi cyflwyno'r terfynau cyflymder hyn fel ffordd o hybu diogelwch ar y ffyrdd a lleihau'r nifer o ddamweiniau yn ein cymunedau.
"Ond dwi hefyd yn deall ei fod yn fater y mae'n rhaid i awdurdodau lleol benderfynu arno yn y pen draw, a rwy'n cydnabod yr agweddau a'r heriau gwahanol y gall pob cymuned ei wynebu."