Newyddion S4C

Tik Tok yn gwahardd hysbysebion fêps

13/09/2023
fêps

Mae pedwar hysbyseb fêps ar TikTok wedi’u gwahardd fel rhan o ymdrechion y rheolydd i atal hyrwyddo fêps.

Fe wnaeth fideos yn hyrwyddo The Disposable Vape Store, Innofly HK, Vapes Bars a Zovoo ymddangos ar TokTok er bod rheolau yn bodoli sy'n gwahardd hysbysebion ar gyfer e-sigaréts.

Dywedodd llefarydd ar ran y Siop Vape Disposable ei fod wedi gweld siopau fêps eraill yn hysbysebu ar TikTok a'u bod yn meddwl ei fod yn dderbyniol.

Dywedodd wrth yr Awdurdod Safonau Hysbysebu (ASA) na fydd yn hysbysebu e-sigaréts ar TikTok eto.

Dywedodd Inofly HK ei fod yn cymryd “pob cam angenrheidiol” i sicrhau bod ei arferion marchnata yn cadw at ganllawiau ASA, gan gynnwys peidio â defnyddio TikTok fel modd o farchnata.

Dywedodd Vapes Bars ei fod wedi cysylltu â’r dylanwadwyr dan sylw a gofyn iddynt ddileu'r fideos, gan ddweud wrth yr ASA y byddai’n “monitro’r sefyllfa yn y dyfodol i sicrhau bod y cynnwys yn cael ei dynnu oddi ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol”.

Yn ôl TikTok mae'r fideos wedi torri ei ganllawiau cymunedol.

Dywedodd yr ASA fod eu penderfyniad yn rhan o’u hymateb i bryderon ynghylch hysbysebion anwedd sy’n ymddangos ar gyfryngau cymdeithasol, gan ddweud: “Rydym wedi ei gwneud yn glir bod un hysbyseb anwedd ar y sianeli hyn yn gam yn rhy bell. Mae ei ddileu yn flaenoriaeth.”

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.