Newyddion S4C

Gosod dyddiad gwrandawiad llys prifathro sydd wedi ei gyhuddo o gam-drin plentyn

12/09/2023
Neil Foden

Mae dyddiad wedi cael ei osod ar gyfer gwrandawiad llys prifathro sydd wedi ei gyhuddo o gam-drin plentyn.

Mae Neil Foden, 66 o Sir Conwy wedi ei gyhuddo o gam-drin plentyn yn rhywiol ac fe fydd yn ymddangos yn Llys y Goron Caernarfon ym mis Hydref, yn ôl North Wales Live.

Ymddangosodd Mr Foden o Hen Golwyn, yn Llys Ynadon Llandudno ar ddydd Gwener, 8 Medi. Ni wnaeth ei gyfreithiwr gais am fechnïaeth.

Ddydd Mawrth fe gafodd ei achos ei gyfeirio i Lys y Goron Caernarfon lle bydd gwrandawiad ple yn cael ei gynnal ar 16 Hydref.

Mae wedi ei gyhuddo o droseddau sydd yn cynnwys gweithgaredd rhywiol gyda phlentyn, ymosodiad rhywiol ar blentyn a chyfathrebu’n rhywiol gyda phlentyn.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.