Newyddion S4C

Llwyddiant economaidd Cymru 'mewn perygl' os na fydd cydweithio gwell rhwng llywodraethau

12/09/2023
Baner Cymru

Mae llwyddiant economaidd Cymru "mewn perygl" os na fydd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn cydweithio'n "fwy effeithiol" gyda'i gilydd yn ôl un o bwyllgorau'r Senedd.

Dywedodd Pwyllgor Economi'r Senedd bod angen cydweithio gwell ar y Gronfa Ffyniant Gyffredin a’r Gronfa Ffyniant Bro.

Mae'r Gronfa Ffyniant Gyffredin yn buddsoddi mewn cymunedau ac yn cefnogi busnesau, pobl a sgiliau tra bod y Gronfa Ffyniant Bro ar waith tan 2024-25, lle mae awdurdodau lleol yn ymgeisio i gyflawni seilwaith sy’n gwella bywyd bob dydd.

Mae'r Pwyllgor wedi cynnal ymchwiliad er mwyn gweld sut mae'r cronfeydd hyn yn cael eu dosbarthu ar draws Cymru wedi i'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd. 

Mae'r adroddiad yn argymell awgrymiadau er mwyn gwella'r ffordd y mae arian yn cael ei ddosbarthu yn ogystal â'n galw am fwy o gyfraniad gan Lywodraeth Cymru wrth gynllunio a chyflwyno cronfeydd yn y dyfodol. 

Mae'r adroddiad hefyd yn awyddus i gael eglurder gan Lywodraeth y DU o ran dyfodol y cronfeydd ar ôl 2025. 

'Blaenoriaeth i bawb'

Dywedodd Cadeirydd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig Paul Davies AS: "Yn dilyn ymadawiad y DU â’r UE, ac ers cyflwyno’r Gronfa Ffyniant Bro a’r Gronfa Ffyniant Gyffredin, rydym wedi nodi nifer o broblemau cychwynnol.

"Mae ariannu datblygiad economaidd yng Nghymru yn gyfrifoldeb a rennir, mae’n flaenoriaeth i bawb. Er mwyn i gyllid datblygu weithio i bobl Cymru, mae’n rhaid i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru gydweithio’n fwy effeithiol."

Ychwanegodd Mr Davies: "Mae angen i sefydliadau hefyd wybod y bydd y cymorth yn parhau ac mae angen sicrwydd ar bobl. Rhaid inni gael sicrwydd gan Lywodraeth y DU y bydd cyllid yn parhau y tu hwnt i 2025, pan fydd y cylch ariannu presennol hwn yn dod i ben."

Mae Newyddion S4C wedi cysylltu gyda Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU am ymateb. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.