400 o siopau Wilko i gau erbyn diwedd mis Hydref
Bydd pob un o 400 siopau Wilko yn cau erbyn diwedd mis Hydref wedi i drafodaethau i brynu'r cwmni fethu.
Roedd gweinyddwyr mewn trafodaethau gyda Doug Putman o Putman Investments i brynu tua 200 o siopau Wilko, sy'n gwerthu nwyddau i'r cartref.
Ond doedd dim modd dod i gytundeb.
Dywedodd Mr Putman, perchennog cwmni HMV, ei fod yn siomedig nad oedd yn gallu cwblhau'r broses er bod arian ar gael iddo wneud hynny.
"Roedd y cyllid yno ac roedd gennym gefnogaeth cwmni PwC, rheolwyr Wilko a chynrychiolwyr staff - pobl rydym yn hynod o ddiolchgar iddynt wrth ystyried y cyfnod heriol presennol."
Ychwanegodd nad oedd cost rhedeg systemau gweithredu Wilko a'r ymrwymiad i newid y fframwaith masnachu yn sicrhau dyfodol hirdymor llwyddiannus i'r cwmni.
Trafodaethau eraill
Yn ôl adroddiadau gan Sky News, mae gweinyddwyr o PwC yn trafod â Poundland yn y gobaith o werthu tua 100 o siopau Wilko iddyn nhw.
Mae siopau eraill ar y stryd fawr sy'n cynnwys The Range a Home Bargains hefyd wedi mynegi diddordeb i brynu siopau Wilko.
Mae Wilko, a oedd yn cyflogi tua 12,500 o weithwyr yn y DU, eisoes wedi cyhoeddi cytundeb gwerth £13 miliwn i werthu 51 o siopau i B&M, er nad yw’r cwmni wedi cytuno i gyflogi gweithwyr Wilko yn rhan rhan o’r cytundeb hwnnw. Mae gan gwmni Wilko 29 0 siopau yng Nghymru.
Ers i'r siopau gau, mae gweinyddwyr wedi cyhoeddi mwy na 1,600 o ddiswyddiadau.
Yr wythnos hon bydd 52 o siopau yn cau, gan olygu bydd 1,016 o ddiswyddiadau pellach.
Bydd 24 o’u siopau’n cau ddydd Mawrth gyda 28 o siopau eraill i fod i gau ddydd Iau 14 Medi.
Llun: PA / James Manning