Newyddion S4C

Elfyn Evans yn gorffen yn ail yn Rali’r Acropolis

10/09/2023
Elfyn Evans ar Rali'r Acropolis

Mae’r Cymro Elfyn Evans wedi gorffen yn yr ail safle ar ddiwedd Rali'r Acropolis yng Ngroeg.

Roedd Evans yn bedwerydd ar ôl pum cymal ddydd Gwener.

Fe gollodd ychydig o dir gan gwympo i’r pumed safle ar ôl dod yn 14eg ar y nawfed cymal, sef trydydd cymal ddydd Sadwrn.

Ond bu’n rhaid i arweinydd y rali, Thierry Neuville, roi’r gorau iddi ar gymal deg ar ôl difrodi olwyn flaen a hongiad ei gar.

Fe roddodd hyn hwb i obeithion Evans wrth iddo ddringo i’r pedwerydd safle ac yna i’r trydydd safle erbyn diwedd dydd Sadwrn.

Fe ddechreuodd Evans yn dda gan ennill y cymal cyntaf o dri dydd Sul gan gipio’r ail safle o ddwylo’r Sbaenwr Daniel Sordo.

Kalle Rovanperä o’r Ffindir enillodd y rali gyda Sordo yn drydydd.

Llun: X/Elfyn Evans
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.