Apêl heddlu ar ôl i ddyn farw mewn gwrthdrawiad yn Sir Caerffili
10/09/2023
Mae Heddlu Gwent yn apelio am wybodaeth ar ôl marwolaeth reidiwr beic modur mewn gwrthdrawiad ar ffordd yr A472 yn Sir Caerffili brynhawn dydd Sadwrn.
Cafodd swyddogion eu galw i’r gwrthdrawiad rhwng Ffos y Gerddinen (Nelson) a Thredomen am tua 16:00.
Roedd swyddogion y gwasanaeth ambiwlans a’r ambiwlans awyr hefyd wedi ymateb i'r alwad.
Bu farw’r dyn 50 oed yn y fan a’r lle a dywedodd y llu fod swyddogion arbenigol yn rhoi cymorth i’w deulu.
Mae'r llu yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth neu oedd yn teithio ar yr A472 rhwng 15:00 a 16:00 ddydd Sadwrn i gysylltu â nhw gan nodi cyfeirnod 300305278.