Newyddion S4C

Galw ambiwlans awyr ar ôl i unigolyn syrthio oddi ar glogwyn ar Ynys Môn

10/09/2023
Porth Dafarch

Bu’n rhaid galw ambiwlans awyr ar ôl i unigolyn syrthio ar glogwyn ar Ynys Môn ddydd Sadwrn.

Roedd y person wedi syrthio 25 troedfedd ger Porth Dafarch rhwng Bae Trearddur a Chaergybi.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am 14.10.

Roedd bad achub Cemaes, Bae Trearddur a’r gwasanaeth ambiwlans hefyd wedi ymateb i’r alwad.

Dywedodd Gwylwyr y Glannau Caergybi fod yr unigolyn wedi “cael triniaeth gan ddoctor yn y fan a’r lle ac wedi llwyddo i gerdded i’r ambiwlans”.

Cafodd ei gludo i Ysbyty Gwynedd ym Mangor.

“Rydyn ni’n dymuno gwellhad buan iddo,” meddai llefarydd ar ran Gwylwyr y Glannau Caergybi.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.