Newyddion S4C

Arestio dau ddyn o dan y ddeddf cyfrinachau swyddogol

Ty'r Cyffredin/ House of Commons

Mae dau ddyn wedi cael eu harestio o dan y ddeddf cyfrinachau swyddogol.

Daw hyn yn dilyn honiadau fod ymchwilydd seneddol wedi bod yn ysbïo ar ran China.

Yn ôl y Sunday Times, roedd un o’r dynion, yn ei 20au, yn ymchwilydd gyda chysylltiadau â nifer o aelodau seneddol Ceidwadol.

Roedd y rhain yn cynnwys y gweinidog diogelwch Tom Tugendhat a chadeirydd y pwyllgor materion tramor Alicia Kearns.

Dywedodd Heddlu’r Met yn Llundain fod y dyn, ac un arall yn ei 30au, wedi eu harestio ym mis Mawrth.

Cafodd y dynion eu rhyddhau ar fechnïaeth ac mae disgwyl iddyn nhw ymddangos o flaen llys yn mis Hydref.

Mae adran gwrthderfysgaeth y Met yn ymchwilio.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.