Dod o hyd i garafán oedd wedi ei dwyn o ogledd Cymru - diolch i dolc
Mae’r heddlu wedi dod o hyd i garafán oedd wedi ei dwyn o ogledd Cymru dros y ffin ym Manceinion – diolch i dolc oedd arni.
Dywedodd yr heddlu eu bod nhw wedi dod o hyd i dri cherbyd a thair carafán ar ôl cael gwarant i chwilio eiddo yn Bolton.
Roedd Uned Cerbydau Wedi eu Dwyn Manceinion Fwyaf wedi archwilio un garafán a darganfod ei fod wedi ei dwyn o Gymru.
Roedd tolc ar y garafán mewn man amlwg ac roedd yr heddlu wedi gwneud nodyn o hynny ar fas data cenedlaethol wrth nodi ei bod ar goll.
Roedd y tolc mewn man penodol dan y gair ‘Exquisit’ sef enw gwneuthuriad y garafán.
Sylwodd Heddlu Manceinion wedyn fod rhan olaf rhif adnabod y cerbyd wedi ei newid o ‘66’ i ‘88’.
'Unigryw'
Dywedodd Jason Roberts o Heddlu Manceinion eu bod nhw “wrth ein bodd yn dychwelyd y garafán i’w pherchennog”.
“Roedd yr unigolion a gymerodd y garafán yn amlwg wedi mynd i drafferth i sicrhau nad oedd ei wir hunaniaeth yn amlwg,” meddai.
“Ond diolch byth fe wnaethom lwyddo i ddod i’r casgliad cywir.
“Ar ôl siarad â’r perchennog, roedd hi’n gallu tynnu sylw at fwy o bethau oedd yn unigryw am ei charafán.
“Manylion fel socedi plwg ychwanegol yr oedd hi wedi’u gosod, popty microdon a hambwrdd salad wedi torri yn yr oergell, a phethau eraill.”