Newyddion S4C

Diflaniad Frankie Morris: Corff wedi ei adnabod yn swyddogol

04/06/2021
Frankie Morris
Frankie Morris

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau fod corff dyn a gafodd ei ddarganfod fel rhan o'r ymchwiliad i ddiflaniad Frantisek "Frankie" Morris wedi ei adnabod yn swyddogol fel y dyn ifanc 18 oed a oedd ar goll.

Roedd Frankie, o Landegfan ar Ynys Môn, wedi bod ar goll ers 2 Mai.

Ar ddydd Iau, 3 Mehefin, cafodd corff dyn ei ddarganfod mewn coedwig ger Caerhun ar gyrion Bangor.

Nid yw marwolaeth Frankie yn cael ei drin fel un amheus, yn ôl yr heddlu.

Mae ei deulu'n derbyn cefnogaeth swyddogion arbenigol ac wedi gofyn i'w preifatrwydd gael ei barchu ar yr adeg anodd hon.

Dywedodd Uwch Arolygydd Owain Llewellyn: "Mae ein meddyliau'n naturiol gyda theulu Frankie.  Roedd hyn yn ymchwiliad hir ac eang a hoffem ddiolch i bawb a'n cynorthwyodd dros y bum wythnos diwethaf".

Dywedodd mam Frankie: "Ar ran y teulu hoffwn ddiolch i bawb a oedd ynghlwm a'r chwiliad am Frankie yn enwedig y gymuned leol.  Roedd Frankie wedi ei garu'n fawr a bydd wedi ei golli'n enfawr.  Byddem yn ddiolchgar pe bawn yn gallu cael preifatrwydd i alaru ar yr adeg anodd hon".

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.