Newyddion S4C

'Cynyddol anodd' i fyfyrwyr prifysgolion ddod o hyd i lety yng Nghymru

Newyddion S4C 07/09/2023

'Cynyddol anodd' i fyfyrwyr prifysgolion ddod o hyd i lety yng Nghymru

Mae myfyrwyr prifysgolion yn ei chael hi'n "gynyddol anodd" i ddod o hyd i le i fyw oherwydd prinder llety, yn ôl Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr Cymru.

Dywedodd eu llywydd Orla Tarn ei bod hi'n "broblem go iawn" yng Nghaerdydd, ond hefyd yn genedlaethol. 

Mae Unipol - undeb tai myfyrwyr - wedi rhybuddio bod y brifddinas yn un o'r llefydd sydd â phrinder llety.

Dywedodd Prifysgol Caerdydd - y fwyaf yn y ddinas - y bydd pob myfyriwr gafodd sicrwydd o lety yn cael lle.

Roedd Sera Louise White, 18, o Lanefydd yn Sir Ddinbych, yn wreiddiol yn dymuno mynd i Brifysgol Birmingham, ond chafodd hi ddim y graddau angenrheidiol.

Fe gafodd hi le yn ddiweddarach ym Mhrifysgol Caerdydd pan agorodd y broses glirio, ond doedd dod o hyd i le i fyw ddim yn hawdd, meddai.

"Fe ddaru ni cael email dydd Gwener diwethaf yn dweud 'we can no longer assure that we can give you offer you accommodation'. 

"Tair wythnos cyn i fi symud mewn mae'n andros o scary clywed hynny. Mae mor bell i fwrdd...pump awr i ddreifio felly does 'na ddim opsiwn i fi ddreifio mewn bob diwrnod."

Cwmnïau preifat

Dywedodd Sera bod y brifysgol wedi awgrymu chwilio am lety gyda chwmnïau preifat, ond roedd rheiny hefyd yn llawn.

Fe aeth ei mam ar wefan gymdeithasol i holi am ystafell sbâr.

"Fe ddaru merch o messagio yn ôl i ddweud bod 'na le mewn tŷ o genod third year sydd bach yn scary," meddai Sera.

"Ond mae nhw wedi bod yn lyfli ag yn andros o helpful i fi drwy'r holl broses."

Dywedodd Llywydd UCMC Orla Tarn ei bod hi'n mynd yn "gynyddol fwy anodd" i fyfyrwyr ffeindio lle i fyw.

"Mae sefydliadau yn recriwtio mwy o fyfyrwyr er mwyn sicrhau eu bod nhw'n cydbwyso'r llyfrau, ond ddim o'r rheidrwydd yn meddwl am y nifer o wlâu sydd ganddyn nhw ar gyfer myfyrwyr na lle maen nhw'n mynd i fyw," meddai.

Ychwanegodd bod yna broblem fawr yng Nghaerdydd - sydd a thair prifysgol - ond hefyd yn genedlaethol.

"Ry'n ni hefyd yn gweld yng ngogledd Cymru nawr llefydd fel Bangor a Wrecsam sydd â myfyrwyr yn teithio o ogledd Lloegr gan nad ydyn nhw'n gallu fforddio llety addas sy'n agos i'w sefydliad."

Dywedodd Prifysgol Caerdydd y "bydd pob myfyriwr gafodd sicrwydd o lety yn cael lle".

Ychwanegodd y llefarydd: "Mae'r myfyrwyr sydd heb gael sicrwydd o lety yn cael eu cyfeirio at y sector breifat".

Dywedodd Prifysgol Metropolitan Caerdydd eu bod wedi cynnig llety i bawb sy'n pasio'r meini prawf.

Yn ôl Prifysgol De Cymru, mae pob myfyriwr israddedig o'r Deyrnas Unedig wedi cael cynnig llety cyn dechrau eu cyrsiau.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.