Cwmni rheilffordd o Gaerfyrddin yn cael dirwy o £18,000 wedi anaf i wirfoddolwr
Mae Cwmni Rheilffordd Gwili wedi cael dirwy o £18,000 ar ôl pledio’n euog i drosedd o dan Reoliadau Gweithio ar Uchder 2005, yn dilyn ymchwiliad ac erlyniad gan reoleiddiwr y diwydiant, y Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd (ORR).
Roedd y digwyddiad yn ymwneud â pherson oedd yn gwirfoddoli gyda threnau treftadaeth Cwmni Rheilffordd Gwili ar 16 Mehefin 2022 yn iard y cwmni.
Yn ystod tasg i dynnu ffabrig pabell dros ffrâm, llithrodd y gwirfoddolwr a syrthio o do cerbyd Marc 1 i’r llawr. Torrodd y gwirfoddolwr ei goes dde, bu’n rhaid i’r gwirfoddolwr dderbyn llawdriniaeth yn yr ysbyty.
Cyflwynwyd Hysbysiad Gwahardd gan arolygydd ORR ar 28 Mehefin 2022 yn dilyn y digwyddiad hwn.
Mae ymchwiliad ORR wedi canfod fod diffyg cynllunio, rheolaeth a goruchwyliaeth ar gyfer y dasg benodol, ac nad oedd unrhyw fesurau wedi'u rhoi ar waith i amddiffyn rhag cwympo o do'r cerbyd ac nad oedd gan yr un o'r gwirfoddolwyr gymhwyster i weithio ar uchder.
Dywedodd ORR hefyd fod yr ysgol a ddefnyddwyd gan y gwirfoddolwr i ddringo i'r to cerbyd mewn cyflwr gwael ac nid oedd yn addas i'w defnyddio.
Fe wnaeth y weithgaredd barhau dros sawl diwrnod, o ganlyniad, roedd y risg o ddisgyn o uchder yn bresennol am gyfnod hir; ac roedd nifer o wirfoddolwyr ac un gweithiwr yn agored i'r risg hon.
Dywedodd Ian Prosser, Prif Arolygydd Rheilffyrdd EM: “Mae damweiniau wrth weithio o uchder yn digwydd yn rhy aml yn y sector treftadaeth ac mae Cwmni Rheilffordd Gwili Cyf yn ffodus nad yw ei fesurau annigonol wedi arwain at anafiadau mwy difrifol.
“Rydym yn annog pob cwmni’n gryf i sicrhau bod gweithgareddau gwaith sy’n cynnwys gweithio o uchder yn cael eu cynllunio’n gywir i sicrhau bod y risg o niwed yn cael ei leihau.”