Newyddion S4C

Yr awdur, dramodydd ac ymgyrchydd iaith Gareth Miles wedi marw 

06/09/2023

Yr awdur, dramodydd ac ymgyrchydd iaith Gareth Miles wedi marw 

Bu farw'r awdur, dramodydd a’r ymgyrchydd dros yr iaith Gymraeg, Gareth Miles, yn 85 oed.

Roedd y comiwnydd a’r gweriniaethwr yn un o sefydlwyr Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ac yn gadeirydd y mudiad rhwng 1967 a 68. 

Roedd yn awdur llawn amser ers yr 80au ac fe enillodd ei nofel Y Proffwyd a'i Ddwy Jesebel wobr Llyfr y Flwyddyn yn 2008.

Cafodd Gareth Miles ei eni yng Nghaernarfon, a'i fagu ym mhentref Waunfawr gerllaw. 

Aeth i Ysgol Gynradd Waunfawr ac yna i Ysgol Ramadeg Caernarfon, cyn mynd i’r brifysgol ym Mangor. 

Yn 1962 gwrthododd dalu dirwy £1 am yrru ei feic mewn modd peryglus yn Aberystwyth hyd nes i’r system gyfiawnder gyfathrebu ag o yn Gymraeg. 

Cafodd ei arestio, ac yn dilyn hynny ysgrifennodd at y Welsh Nation yn galw ar eraill i brotestio dros yr iaith, ac yn ddiweddarach yn yr un flwyddyn, cafodd Cymdeithas yr Iaith ei ffurfio. 

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi rhoi teyrnged iddo : " Cydymdeimlwn â theulu Gareth Miles o glywed am eu profedigaeth heddiw.

"Roedd yn un o sylfaenwyr Cymdeithas yr Iaith, yn Gadeirydd, ac ef gyflwynodd ein egwyddor parhaus bod y frwydr dros yr iaith yn rhan annatod o'r frwydr fyd-eang dros gyfiawnder cymdeithasol."

Fe fu’n athro Saesneg a Ffrangeg yn ysgolion Amlwch, Dyffryn Nantlle, ac Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam. 

Yn y 70au, cafodd ei benodi'n Drefnydd Cyffredinol UCAC a symud bryd hynny i lawr i dde Cymru, gan ymgartrefu ym Mhontypridd.

Roedd yn awdur dros 10 o nofelau gyda’r diweddaraf, Cuddwas, wedi ei chyhoeddi yn 2015. 

Fe wnaeth hefyd waith sgriptio ar gyfer y teledu gan gynnwys cyfres Pobol y Cwm, Coleg, a Dinas. 

Addasodd nofel Chwalfa, T Rowland Hughes ar gyfer y llwyfan, ac fe agorodd ganolfan celfyddydau Pontio ym Mangor yn 2016. 

Wrth roi teyrnged ar gyfrwng cymdeithasol X, dywedodd Dafydd Iwan: "Trist clywed am farw un o arweinyddion y chwyldro tawel, Gareth Miles. Coffa da amdano a chariad mawr at Gina a'r teulu."  

Dywedodd Ffred Ffransis, cyd-ymgyrchydd Cymdeithas yr Iaith a ddaeth yn rhan o’r mudiad o dan Gadeiryddiaeth Gareth Miles:

“Gareth oedd Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith ar ganol yr 1960au pan ddois i'n aelod gweithredol, a bu'n arwain mewn dull amhrisiadwy trwy siarad ac annog aelodau ifainc newydd. Fo yn bennaf oll roddodd y sicrwydd i ni i gyd fod y frwydr dros y Gymraeg yn rhan o frwydr ehangach fyd-eang dros gyfiawnder cymdeithasol, a rhoi pobl o flaen buddiannau corfforaethol. Mae ein dyled yn enfawr iddo."

Mae cadeirydd presennol Cymdeithas yr Iaith, Robat Idris hefyd wedi sôn am gyfraniad Gareth Miles i ddatblygiad y mudiad: “Heblaw am ei gyfraniad fel sylfaenydd a Chadeirydd, Gareth Miles gyflwynodd ac a wreiddiodd y syniad sy'n dal i redeg trwy waith y Gymdeithas, bod brwydr yr iaith yn annatod i gyfiawnder cymdeithasol ac yn rhan o'r frwydr fyd-eang yn erbyn grym imperialaidd a chyfalafol. Mae hynny'n rhan annatod o'n gweledigiaeth ni hyd heddiw.

”Mae’n golled i’r mudiad cenedlaethol, y mudiad sosialaidd a’r chwith yng Nghymru, ond yn bennaf oll mae’n golled i’r teulu.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.