Cyhoeddi Prifardd Eisteddfod T 2021
04/06/2021
Kayley Sydenham yw Prifardd Eisteddfod T 2021.
Daeth Kayley, sy'n ddisgybl yn Ysgol Gyfun Gwynllyw, i'r brig ymhlith 40 o geisiadau.
Cafodd ei gwaith ei disgrifio gan y beirniad, Mererid Hopwood, fel y "cyfanwaith mwyaf gorffenedig yn y gystadleuaeth".
Mae Kayley, sy'n hanu o Gasnewydd, yn derbyn tlws wedi ei greu yn arbennig gan y cerflunydd Ann Catrin Evans.
Daeth Ciarán Eynon o Landrillo-yn-rhos yn ail, gyda Tegwen Bruce-Deans o Landrindod, Maesyfed yn dod yn drydydd.
Hon oedd seremoni olaf Eisteddfod T 2021.