Y Tywysog William i deithio i Ffrainc i wylio Cymru'n herio Ffiji
Fe fydd y Tywysog William yn teithio i Ffrainc i wylio Cymru yn herio Ffiji yn eu gêm agoriadol yng Nghwpan Rygbi'r Byd.
Bydd William sy’n Noddwr Brenhinol Undeb Rygbi Cymru yn teithio i’r gêm yn y Stade de Bordeaux ddydd Sul.
Yn y cyfamser bydd Tywysoges Cymru, Kate, yn teithio i wylio gêm Lloegr yn erbyn yr Ariannin yn y Stade de Marseille ddydd Sadwrn.
Derbyniodd y Tywysog William, sydd yn llywydd Cymdeithas Bêl-droed Lloegr yn ogystal, feirniadaeth am beidio â theithio i Awstralia i wylio Lloegr yn ffeinal Cwpan Pêl-droed y Menywod.
Dywedodd y darlledwr Jon Sopel y byddai yn “amhosib dychmygu” na fyddai William wedi teithio i wylio Lloegr os oedden nhw yn ffeinal Cwpan y Byd.
Roedd Brenhines Letizia Sbaen yn bresennol i wylio ei gwlad yn ennill y gystadleuaeth.
Llun: PA