Yr heddlu'n ymchwilio i honiadau fod y pêl-droediwr Antony wedi ymosod ar ei gyn-gariad
Mae’r heddlu ym Manceinion yn ymchwilio yn dilyn honiadau fod asgellwr Manchester United, Antony, wedi cam-drin ei gyn-gariad yn gorfforol.
Dywedodd Ffederasiwn Pêl-droed Brasil fod y chwaraewr 23 oed wedi'i dynnu'n ôl o'r garfan ar ôl i "ffeithiau ddod yn gyhoeddus" a bod "angen ymchwilio iddynt".
Mae’r heddlu yn Sao Paulo a Manceinion yn ymchwilio i’r honiadau.
Mae Antony wedi gwadu’r honiadau mewn datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol: “Gallaf ddatgan yn bwyllog fod y cyhuddiadau’n ffug a bod y dystiolaeth a gynhyrchwyd eisoes a’r dystiolaeth fydd yn cael ei gynhyrchu yn dangos fy mod yn ddieuog o’r cyhuddiadau.
“Dwi’n ffyddiog y bydd ymchwiliadau parhaus yr heddlu yn dangos y gwir am fy nieuogrwydd.”
Mae Antony wedi ei gyhuddo o ymosod ar ei gyn gariad Gabriela Cavallin “gyda'i ben” mewn ystafell westy ym Manceinion ar 15 Ionawr, gan ei gadael â briw ar ei phen a oedd angen triniaeth gan feddyg.
Mae hi hefyd yn honni iddi gael ei phwnio yn y frest, gan achosi difrod i fewnblaniad bron silicon, a oedd angen llawdriniaeth.
Ychwanegodd Antony yn ei ddatganiad ddydd Llun fod ei berthynas gyda'i gyn bartner yn "gythryblus", ond mynnodd nad oedd "erioed wedi cyflawni unrhyw ymddygiad ymosodol corfforol".
Fe wnaeth hefyd ryddhau datganiad ym mis Mehefin yn dweud ei fod wedi cael ei gyhuddo ar gam gan ei gyn gariad o drais yn y cartref.
Ymchwiliad
Dywedodd Heddlu Manceinion eu bod yn "ymwybodol o'r honiadau a wnaed ac mae ymholiadau'n parhau i sefydlu amgylchiadau'r adroddiad hwn".
Ychwanegodd y llu: "Ni fyddwn yn gwneud sylw pellach ar hyn o bryd."
Dyw Manchester United heb wneud unrhyw sylw ar y mater hyd yma.
Mae ymosodwr Arsenal Gabriel Jesus wedi cymryd lle Antony yng ngharfan Brasil ar gyfer gemau rhagbrofol Cwpan y Byd yn erbyn Bolivia a Pheriw.
Llun: Instagram@antony00