
Y to ar Neuadd Dewi Sant wedi ei wneud o goncrit RAAC
Gall Newyddion S4C ddatgelu fod Cyngor Caerdydd wedi gweithredu camau ers dros 18 mis i sicrhau fod Neuadd Dewi Sant "yn parhau yn ddiogel yn y tymor byr" ar ôl i goncrit RAAC gael ei ddarganfod ar do'r adeilad.
Cafodd yr adeilad ei agor yn 1982, ac fe wnaeth arolwg o'r neuadd yn 2021 ddarganfod fod y to wedi ei greu o blanciau concrit RAAC.
Mae'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch wedi datgan fod concrit diffygiol RAAC mewn adeiladau wedi cyrraedd pen ei oes, ac fe all ddisgyn yn ddirybudd.
Dywed y cyngor ei fod wedi derbyn adroddiadau dros y 18 mis diwethaf na fu unrhyw ddirywiad yng nghyflwr RAAC sy’n bresennol yn y neuadd.
Ym mis Ebrill eleni fe gyhoeddodd Cadw eu bwriad i gynnig rhestru Neuadd Dewi Sant yn adeilad o ddiddordeb pensaernïol a hanesyddol arbennig.
'Rheoli risg anghynaliadwy'
Daeth adroddiad gan y cyngor i'r casgliad yn nechrau 2022 fod yr awdurdod yn cael ei roi mewn "sefyllfa rheoli risg anghynaliadwy oni bai bod cyllid digonol a chamau adfer addas yn cael eu gweithredu cyn gynted â phosibl" mewn cyswllt â sefyllfa RAAC yn y neuadd.
Mae Cyngor Caerdydd yn gobeithio trosglwyddo prydles tymor hir y neuadd i denant newydd, sef Academy Music Group (AMG).
Cafodd y penderfyniad i wneud hynny sêl bendith cabinet y cyngor ym mis Gorffennaf.
Dywed y cyngor fod gan AMG gynlluniau ar waith i adfer yr adeilad gan fynd i'r afael â phresenoldeb RAAC "yn y tymor canolig i'r hirdymor".
Arolwg cyflwr
Fe wnaeth cofnodion Pwyllgor Craffu'r Economi a Diwylliant Cyngor Caerdydd o fis Rhagfyr 2022 ddweud bod arolwg cyflwr adeilad Neuadd Dewi Sant yn 2021 wedi nodi "nifer o faterion."
“Datgelodd yr arolwg cyflwr fod y to yn Neuadd Dewi Sant wedi’i ffurfio o blanciau Concrit Awyrog Awtoclaf Cyfnerth (RAAC).
“Arweiniodd hyn at y Cyngor i weithredu strategaeth rheoli adeiladau a iechyd a diogelwch yn seiliedig ar gyngor proffesiynol a bwletinau’r llywodraeth, i sicrhau y gallai Neuadd Dewi Sant barhau i weithredu’n ddiogel dros y tymor byr."

Ychwanegodd y cofnodion mai dim ond dros gyfnod byr yr oedd modd parhau gyda'r dull o reoli RAAC yn y neuadd:
“...yn y misoedd diwethaf mae canllawiau'r llywodraeth ar y risg sy'n gysylltiedig â phlanciau RAAC wedi'u diweddaru ac wedi cynyddu'r angen am waith adfer... Dim ond yn rhesymol y gellir parhau â'r dull rheoli presennol dros y tymor byr fel mesur dros dro i adferiad parhaol.
“Mae'r cyngor yn cael ei roi mewn sefyllfa rheoli risg anghynaliadwy oni bai bod cyllid digonol a chamau adfer addas yn cael eu gweithredu cyn gynted â phosibl, mewn perthynas â phlanciau RAAC."
Cau ysgolion
Mae darganfod Concrit Awyrog Awtoclaf Cyfnerth (RAAC) wedi arwain at gau dwy ysgol ar Ynys Môn yr wythnos hon. Roedd disgyblion i fod i ddychwelyd i Ysgol David Hughes ym Mhorthaethwy ac Ysgol Uwchradd Caergybi ddydd Mawrth. Dyma'r ysgolion cyntaf yng Nghymru i gael eu nodi fel rhai sydd â choncrit diffygiol RAAC.
Mae dros 150 o ysgolion, colegau a meithrinfeydd wedi gorfod cau'n rhannol neu'n llwyr yn Lloegr dros y dyddiau diwethaf o achos pryderon am bresenoldeb RAAC, a bu'n rhaid cau rhan o Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd, Sir Benfro, yn ddiweddar wedi i'r concrit diffygiol gael ei ddarganfod yno.

Dywed Llywodraeth Cymru fod pob un o awdurdodau lleol Cymru'n asesu adeiladau ysgolion am bresenoldeb RAAC yn dilyn gwybodaeth newydd dros y penwythnos.
Yn ôl Llywodraeth y DU, maen nhw wedi bod yn monitro pob achos o RAAC sydd wedi ei gadarnhau "yn agos ac yn ofalus".
"Mae achosion diweddar wedi arwain at golli hyder mewn adeiladau sy’n cynnwys y deunydd, gan ein harwain i gynghori lleoliadau addysg (ysgolion, colegau ac ysgolion meithrin) i adael pob gofod neu adeilad y gwyddys ei fod yn cynnwys RAAC, oni bai bod ganddynt fesurau lliniaru eisoes ar waith i wneud yr adeilad yn ddiogel."
'Archwiliadau trylwyr'
Mewn ymateb i gais Newyddion S4C am wybodaeth am y sefyllfa ddiweddaraf am RAAC yn Neuadd Dewi Sant, dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd: “Mae Neuadd Dewi Sant wedi bod yn destun archwiliadau trylwyr a rheolaidd gan arbenigwyr ers dros 18 mis, ac yn ystod y cyfnod hwnnw mae’r awdurdod lleol wedi derbyn adroddiadau na fu unrhyw ddirywiad yng nghyflwr RAAC sy’n bresennol yn y lleoliad, ac mae'n parhau i fod yn ddiogel i weithredu fel arfer.
“Mae Cyngor Caerdydd wedi gweithredu strategaeth rheoli adeiladau ac iechyd a diogelwch, yn seiliedig ar gyngor proffesiynol a bwletinau’r llywodraeth, i sicrhau bod y lleoliad yn parhau’n ddiogel yn y tymor byr.
“Cyn cymryd drosodd gweithrediad Neuadd Dewi Sant, mae AMG hefyd wedi cynnal ei archwiliadau ei hun ac mae ganddo gynlluniau ar waith i wneud y gwaith adfer sydd ei angen yn y tymor canolig i’r hirdymor."
Lluniau: Eli Brown & Seth Whales / Creative Commons