Newyddion S4C

Beth fydd effaith streic gan rai gweithwyr cyngor yng Nghaerdydd, Wrecsam a Gwynedd fis Medi?

04/09/2023
Biniau

Mae rhai gweithwyr cyngor sy'n perthyn i undeb Unite yn mynd ar streic yng Nghaerdydd, Wrecsam a Gwynedd fis Medi mewn anghydfod dros gyflogau.

Mae rhybudd i bobl sy’n byw yng Nghaerdydd a Wrecsam y gallai y streico sy’n dechrau ddydd Llun barahau am bythefnos ac amharu ar eu casgliadau biniau.

Mae gweithwyr Cyngor Gwynedd yn bwriadu dechrau streicio ddydd Llun Medi 11.

Mae gweithwyr yng Ngwm Cynon hefyd wedi pleidleisio i fynd ar streic ond heb bennu dyddiad eto.

Mae undeb Unite yn cydlynu ymgyrch o weithredu diwydiannol o 4 Medi, ar draws 23 o gynghorau yng Nghymru a Lloegr.

Pam bod gweithwyr y cyngor yn streicio?

Dywedodd Unite eu bod yn cynnal y streiciau ar ôl i’r corff sy’n trafod cyflogau gweithwyr cyngor yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon wrthod ailagor trafodaethau.

Dywedodd y Cyd-gyngor Cenedlaethol (NJC) ar gyfer Gwasanaethau Llywodraeth Leol fod y cynnig cyflog ar gyfer 2023-24 - o £1,925 ar gyfer y rhai sy'n ennill llai na £49,950, a 3.88% ar gyfer enillwyr uwch - yn "llawn a therfynol".

Ond dywedodd Peter Hughes, ysgrifennydd rhanbarthol Unite Wales, fod y cynnig cyflog presennol yn "slap yn y wyneb ac y byddai lefelau cyflog yn erydu ymhellach".

"Mae ein haelodau yn darparu gwasanaethau hanfodol o ddydd i ddydd, ac yn haeddu gwell," ychwanegodd.

Amddiffynnodd yr NJC y cynnig fel un “teg o dan yr amgylchiadau” a dywedodd ei fod yn cyfateb i “gynnydd i’r rhai ar y cyflogau isaf o 9.42% eleni; sy’n golygu y bydd eu cyflog wedi cynyddu £4,033 (22%) dros y ddwy flynedd ers Ebrill 20".

Cyngor i bobl Gaerdydd

Mae Cyngor Caerdydd wedi cynghori trigolion i wirio eu gwefan am ddiweddariadau dyddiol.

Mae disgwyl i gasgliadau bin du a gwastraff bwyd ym mhrifddinas Cymru "barhau fel arfer" ond efallai na fydd gwastraff gardd ac ailgylchu yn dael eu casglu.

Dywedodd y cyngor y gallai casglu gwastraff hylendid hefyd gael ei atal, ond ychwanegodd y gallai gael ei roi allan ochr yn ochr â biniau du neu fagiau du ar y diwrnod casglu a drefnwyd bob pythefnos.

Mae disgwyl i ganolfan ailgylchu Ffordd Lamby Caerdydd weithredu fel arfer ond fe fydd safle Heol Bessemer ar gau i ddefnyddwyr domestig.

Cyngor i bobl Wrecsam

Yn ôl Cyngor Wrecsam ni fydd effaith lawn y streicio yn hysbys nes i’r gweithredu diwydiannol ddechrau.

Mae’r cyngor wedi gofyn i bobl roi eu biniau a'u hailgylchu allan fel arfer ac wedi dweud y byddai'n ymateb i'r sefyllfa wrth iddi ddatblygu.

Dywedodd Ian Bancroft, prif weithredwr Cyngor Wrecsam: “Rydym wedi bod yn ceisio asesu’r effaith posib a byddwn yn gwneud pob ymdrech i leihau aflonyddwch i bobl leol.

"Fodd bynnag, mewn llawer o achosion ni fyddwn yn gwybod yr effaith lawn tan ddiwrnod y streiciau."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.