Newyddion S4C

Rhagor o waith yn dechrau ar Bont y Borth

04/09/2023
pont menai

Bydd rhagor o waith atgyweirio yn cychwyn ar Bont y Borth rhwng Ynys Môn a thir mawr Cymru ddydd Llun.

Mi fydd bachau crog parhaol yn cael eu gosod er mwyn atgyfnerthu'r bont fel rhan o ail gymal gwaith cynnal a chadw.

Bydd “dulliau rheoli traffig i leihau unrhyw darfu ar drigolion lleol,” meddai Llywodraeth Cymru. 

Bydd un lôn ar gau o 07.00 ddydd Llun i 15.30 ddydd Gwener, gyda goleuadau traffig ar bob ochr i’r bont tra bod mesurau traffig ar waith.

Ni fydd unrhyw reolaeth traffig ar y penwythnosau na gwyliau banc.

Disgwylir i'r rhaglen lawn gael ei chwblhau ym mis Awst 2025,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

“Bydd y cyfyngiad pwysau presennol o 7.5T ar gyfer croesi'r bont yn parhau nes bod yr holl waith wedi'i gwblhau.”

200 mlwyddiant

Ym mis Hydref y llynedd, fe gafodd y bont grog ei chau yn gyfan gwbl i draffig ar ôl i beirianwyr godi pryderon am ei sefydlogrwydd.

UK Highways A55 Limited sy’n gyfrifol am gynnal y gwaith adnewyddu.

Mae disgwyl i’r bont gael ei phaentio yn dilyn yr atgyweirio. 

Y bwriad ydi cwblhau'r gwaith erbyn haf 2025 - cyn dathliadau 200 mlwyddiant y bont yn 2026.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.