Newyddion S4C

Canfod henebion archeolegol o 'arwyddocâd cenedlaethol' ym Miwmares

03/09/2023
Biwmares Steeple lane

Mae henebion archeolegol o “arwyddocâd cenedlaethol” wedi eu canfod ym Miwmares yn ystod gwaith i ddatblygu chwe fflat yn y dref. 

Fe gafodd wal a ffos amddiffynnol y canol oesau – sef oes Owain Glyndŵr – eu canfod wrth i waith adeiladu cael ei gynnal ar safle'r cyn clwb cymdeithasol, ar Steeple Lane. 

Mi oedd y wal eisoes wedi cael ei gydnabod gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru, ac roedd disgwyl iddo gael ei restru fel henebyn cofrestredig. 

Ond yn ôl adroddiad CR Archaelogy, y cred oedd bod y wal wedi cael ei ddinistrio yn ystod gwaith i adnewyddu'r clwb cymdeithasol, yn ystod yr 1970au. 

Mae’r wal, sy’n dal i sefyll, yn dyddio'n ôl i’r 1400au. Mae’r wal bellach wedi’i ddiogelu ac fe fydd yn cael ei hystyried ar gyfer ei hail-restru.

Roedd y ffos, a gafodd ei chanfod ger y wal, yn cael ei chydnabod fel ‘Clay Pits,’ yn ôl yr adroddiad. Bu’n cyfeirio at ardal le gafodd gwaith cynhyrchu “budr” ei gynnal. 

Canfyddiadau ‘cyffrous iawn’

Daw’r canfyddiadau fel rhan o gynllun Cyngor Sir Ynys Môn i adeiladu mwy o dai fforddiadwy ar gyfer trigolion lleol. 

Mae darnau o nwyddau hynafol hefyd wedi eu canfod yn ystod y gwaith adeiladu, gan gynnwys crochenwaith canoloesol, poteli gwydr a seramig ac esgyrn anifeiliaid. 

Dywedodd Jenny Emmet, Uwch Archeolegydd Cynllunio ar gyfer Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd, bod canfyddiadau o’r fath yma’n “gyffrous iawn.” 

“Mae’r prosiect yma’n ddiddorol iawn oherwydd y cyferbyniad rhwng beth rydym eisoes wedi dysgu am y dref, gyda’r ffos a’r wal, oedd yn nodweddiadol i amddiffynfeydd canoloesol y dref. 

“Mae’r nwyddau bychan yn cyfleu hanesion difyr gwerin gyffredin Biwmares,” ychwanegodd. 

“Mae canfod wal sy’n dal i sefyll yn gyffrous iawn. 

“Mae’r wal bellach wedi’i adfer gan arbenigwyr ac fe fydd trigolion yn gallu ei weld fel rhan o wal ar Steeple Lane.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.