Newyddion S4C

Burning Man: Marwolaeth mewn gŵyl gerddoriaeth yn anialwch Nevada

Burning Man

Mae ymchwiliad wedi’i lansio yn nhalaith Nevada yn yr Unol Daleithiau ar ôl i berson farw mewn gŵyl gerddoriaeth yn yr anialwch. 

Bu farw’r unigolyn yng ngŵyl Burning Man ar ôl i gyfnod o law trwm droi’r tir yn ansefydlog a pheryglus. 

Mae mynediad ffyrdd i’r ŵyl yn parhau ar gau, gan olygu nad oes modd i bobl adael y safle. 

Daw hyn ar ôl cyfnodau o dywydd eithafol sydd wedi achosi i gerbydau fynd yn sownd yn nhir mwdlyd yr anialwch Black Rock. 

Mae pobl wedi eu hannog i geisio am loches ac i arbed unrhyw fwyd sydd ar gael.

Mewn datganiad ddydd Sadwrn, dywedodd Swyddfa Siryf Sir Pershing ei fod yn “cynnal ymchwiliad am farwolaeth ddigwyddodd yn ystod y cyfnod eithafol o law.”

Mae teulu’r unigolyn wedi cael gwybod am ei farwolaeth. 

Mae awdurdodau lleol hefyd yn rhybuddio pobl i beidio â theithio i'r ardal. 

Daeth y tywydd annisgwyl ar ddiwedd yr ŵyl, sy’n para naw diwrnod. Dyna'r cyfnod pan mae’r torfeydd ar eu mwyaf, wrth i bobl ymgynnull i weld dyn pren enfawr yn cael ei losgi. 

Mae disgwyl rhagor o gawodydd yn ystod y dyddiau nesaf, meddai’r awdurdodau lleol.

Mae rhybuddion y gallai gymryd sawl diwrnod i bobl allu adael yr ŵyl yn sgil hynny.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.