Arestio dau ddyn dan y Ddeddf Terfysgaeth ar ôl rhyddhau data cyfrinachol Heddlu Gogledd Iwerddon
Mae dau ddyn wedi eu harestio dan y Ddeddf Terfysgaeth ar ôl i ddata cyfrinachol staff Gwasanaeth Heddlu Gogledd Iwerddon gael ei gyhoeddi.
Fe gafodd data personol a manylion cyflogaeth tua 10,000 o staff a swyddogion Gwasanaeth Heddlu Gogledd Iwerddon (PSNI) ei gyhoeddi mewn camgymeriad fis diwethaf.
Daeth cadarnhad gan y llu fod y dynion, sy’n 21 a 22 oed, wedi eu harestio o dan y Ddeddf Terfysgaeth yn dilyn cyrch yn ardal Portadown ddydd Sadwrn.
Cafodd y ddau eu holi yng Ngorsaf Troseddau Difrifol Musgrave, cyn cael eu rhyddhau ar fechnïaeth.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Avine Kelly: “Rydym yn parhau i weithio i ganfod pwy sydd â’r wybodaeth a byddwn yn cymryd camau i sicrhau bod unrhyw droseddau yn cael eu nodi a’u trin yn gadarn er mwyn cadw ein cymunedau, a’r swyddogion a staff sy’n eu gwasanaethu, yn ddiogel.”
Fe gafodd y data ei gyhoeddi pan ymatebodd y Gwasanaeth Heddlu i gais Rhyddid Gwybodaeth yn gofyn am nifer y swyddogion a staff o bob rheng a gradd ar draws y sefydliad.
Yn yr ymateb i'r cais hwnnw, fe gyhoeddwyd tabl a oedd yn cynnwys y data rheng a gradd, ond oedd hefyd yn cynnwys gwybodaeth fanwl a oedd yn cynnwys cyfenwau, blaenlythrennau, lleoliad ac adrannau holl weithwyr y gwasanaeth.
Roedd y data o bosibl ar gael i'w weld yn gyhoeddus am rhyw ddwy awr a hanner i dair awr.
Mae’r PSNI wedi cadarnhau bod y rhestr, sy’n cynnwys cyfenw a blaenlythrennau cyntaf pob gweithiwr, eu gradd, ble maen nhw wedi’u lleoli a’r uned maen nhw’n gweithio ynddi, yn nwylo gweriniaethwyr anghydnaws.