
Cau Pont y Bermo am dri mis wrth i waith adnewyddu gwerth £30m gael ei gynnal
Cau Pont y Bermo am dri mis wrth i waith adnewyddu gwerth £30m gael ei gynnal
Bydd traphont sy’n gyswllt i wasanaethau trên yng Ngwynedd ar gau am dri mis wrth i waith adnewyddu gwerth £30 miliwn gael ei gynnal.
Mi fydd Pont y Bermo ar gau o ddydd Sadwrn ymlaen, gan olygu ni fydd gwasanaethau trên arferol yn rhedeg am gyfnod.
Yn bont hynafol dros 150 o flynyddoedd oed, mae Pont y Bermo yn sefyll uwchben yr Afon Mawddach.
Mae’r draphont yn gyswllt i orsafoedd trên Morfa Mawddach a’r Bermo.
Fel arfer, bu’n galluogi trenau i gludo pobl ledled Gwynedd a thu hwnt, gan gynnwys i’r gogledd, i Bwllheli, ac i’r dwyrain, tuag at Fachynlleth, yr Amwythig a Birmingham.
Bydd gwasanaeth bysiau pellach yn cael ei gynnal wrth i’r gwaith cael ei gynnal.

Adnewyddu
Dyma fydd penllanw’r gwaith adnewyddu sydd wedi parhau dros gyfnod o dair blynedd.
Network Rail sydd yn cyflawni’r gwaith adnewyddu, a’i wneud “mewn ffordd nad yw’n bygwth ei threftadaeth ddiwydiannol a’i statws rhestredig fel adeilad Gradd II,” yn ôl eu gwefan.
Mi fydd y gwaith cynnal a chadw hefyd yn sicrhau y byddai’r draphont yn cael ei hadnewyddu mewn modd a fydd yn amddiffyn ei “hedrychiad ardderchog”.
Daw fel rhan o waith adnewyddu hanfodol, wedi i beirianwyr canfod yr oedd y bont mewn cyflwr gwaeth nag y disgwylir yn ystod ‘cam 1’ a ‘cham 2’ o’r broses adnewyddu.
Bydd llwybr cerdded Pont y Bermo hefyd ar gau yn ystod y cyfnod yma wrth i’r gwaith adnewyddu parhau, rhwng 31 Awst – 24 Tachwedd.
Lluniau: Network Rail