Canllaw cyflym i Gwpan Rygbi'r Byd 2023
Gyda llai nag wythnos i fynd tan y bydd Cwpan Rygbi'r Byd yn dechrau yn Ffrainc, mae disgwyl i'r gystadleuaeth eleni fod yn un o'r rhai mwyaf agored yn ei hanes.
Dyma gipolwg ar rai o brif bwyntiau'r gystadleuaeth.
Pryd fydd y gystadleuaeth yn dechrau?
Bydd Ffrainc yn wynebu Seland Newydd yng ngêm agoriadol y gystadleuaeth ddydd Gwener yn y Stade de France ym Mharis.
Faint o dimau sy'n rhan o'r gystadleuaeth?
Mae Cymru, Lloegr, Yr Alban ac Iwerddon ymysg yr 20 tîm sy'n gobeithio codi Cwpan Webb Ellis a chael eu coroni yn bencampwyr byd ar ddiwedd y gystadleuaeth.
Bydd Cymru yn wynebu Fiji yn eu gêm agoriadol ddydd Sul yn Bordeaux, tra bydd Lloegr yn herio Ariannin ac Iwerddon yn chwarae yn erbyn Romania ddydd Sadwrn.
Bydd Yr Alban yn herio'r pencampwyr byd presennol, De Affrica, ddydd Sul.
Faint o wledydd sydd wedi ennill y gystadleuaeth?
Yn hanes 36 mlynedd y gystadleuaeth, dim ond pedair gwlad sydd wedi ei hennill, sef Seland Newydd, Awstralia, De Affrica a Lloegr.
Pwy ydy'r ffefrynnau?
Iwerddon sydd yn safle rhif un rhestr detholion y byd tra bod De Affrica yn ail, Ffrainc yn drydydd a Seland Newydd yn bedwerydd.
Mae'r Alban wedi eu gosod yn bumed tra bod Lloegr yn wythfed a Chymru yn y 10fed safle.
Lle bydd y gemau yn cael eu chwarae?
Bydd yr holl gemau yn cael eu chwarae ar draws naw dinas, sef Paris, Marseille, Nice, Bordeaux, Toulouse, Lyon, Lille, Saint-Etienne a Nantes.
Faint o bwyntiau fydd timau yn eu cael?
Bydd timau yn derbyn pedwar pwynt am fuddugoliaeth a dau bwynt os yn sicrhau gêm gyfartal.
Bydd pwynt bonws yn cael ei wobrwyo am sgorio pedwar cais neu drwy golli gêm o saith pwynt neu lai.
Bydd enillydd pob grŵp a'r tîm yn yr ail safle yn mynd ymlaen i chwarae yn rownd yr wyth olaf.
Pwy ydy capten Cymru?
Jac Morgan a Dewi Lake sydd wedi eu henwi yn gyd-gapteniaid ar Gymru.
Pryd a ble fydd Cymru yn chwarae?
Bydd Cymru yn herio Fiji ar 10 Medi yn Bordeaux cyn mynd ymlaen i wynebu Portiwgal ar 16 Medi yn Nice, Awstralia ar 24 Medi yn Lyon a Georgia ar 7 Hydref yn Nantes.