
Anfamol: Drama yn 'torri tir newydd' wrth ddangos y profiad o ddefnyddio rhoddwyr sberm
Fe fydd cyfres ddrama ar S4C "yn torri tir newydd" drwy adrodd hanes menywod sy'n penderfynu defnyddio banc sberm er mwyn cael babi.
Mae’r gyfres yn dilyn stori Ani wrth iddi gychwyn ar y broses o ddod yn fam gan ddefnyddio gwasanaeth rhoddwyr sberm.
Bwriad y gyfres yw galluogi menywod ledled y wlad i uniaethu gyda’r prif gymeriad, Ani, medd S4C, wrth iddi wynebu’r heriau newydd o ddod yn fam.
Mae Anfamol yn addasiad teledu o ddrama lwyfan Rhiannon Boyle fydd ar S4C o 6 Medi ymlaen, ac sy’n cael ei rhyddhau fel Bocs Set ar yr un dyddiad.
Wrth drafod y gyfres, dywedodd Rhiannon Boyle: “Mae’n dywyll ond doniol, ac mae darnau Ani at gamera yn sicr am gael pobl i deimlo’n anesmwyth ac yn chwerthin ar yr un pryd.”
Daeth yr ysbrydoliaeth am y ddrama yn sgil ei phrofiadau personol o ddod yn rhiant, meddai’r awdur.
“Pan ges i ddwy o ferched o fewn 21 mis na’th o hitio fi fatha trên. Ar y tu allan o'n i’n ymdopi’n wych ond tu mewn o'n i’n rili stryglo efo colli hunaniaeth, blinder, gorbryder, iselder, teimlo’n anweledig a bored.
“O'n i isho siarad am y teimladau yna fel bod mamau eraill sy’n teimlo’r un fath yn gallu uniaethu a teimlo bod nhw ddim ar eu pen eu hunain.
“Dyma ddrama sy’n lleisio pethau mae pobl ofn, neu rhy embarrassed i siarad amdanynt. Mae hi’n gomedi ffraeth, di-flewyn ar dafod sy’n llawn hiwmor ond sydd â stori emosiynol llawn cariad a gobaith wrth wraidd y naratif.”

‘Profiadau menywod Cymreig’
Bethan Ellis Owen sy’n chwarae’r brif ran, a hithau'n portreadu cyfreithwraig lwyddiannus sengl sydd newydd droi’n 40 wrth iddi gychwyn ar ei thaith o ddod yn fam.
Dywedodd fod y gyfres yn “rhoi rhyddid i famau wybod bod hi’n iawn i fod yn flin efo’u plant neu beidio’u licio nhw weithiau, a bod hynny ddim yn golygu nad ydyn nhw’n eu caru nhw.”
Mae S4C yn torri tir newydd wrth ddangos “drama sydd yn llawn rhyw a dynion secsi De Americanaidd sy’n siarad Cymraeg,” ychwanegodd yr actores.
Fe fydd yr actores hefyd yn chwarae’r un rhan yn y ddrama lwyfan fu’n teithio gyda Theatr Genedlaethol Cymru ddiwedd 2021.
Ymysg gweddill y cast, mae Wynford Ellis Owen, sef tad Bethan Ellis Owen, yn chwarae rhan tad Ani.
Wrth geisio mynd i’r afael â thangynrychiolaeth menywod yn y diwydiant teledu, nod y cynhyrchwyr oedd sicrhau bod cymaint o fenywod â phosibl yn rhan o’r tîm.
Yn fam newydd ei hun, dywedodd Bethan Ellis Owen: “Roedd cymaint o ferched yn gweithio ar y rhaglen ar y set dwi’n meddwl bod pawb yn deall ei gilydd ac yn dod o’r un lle a rhannu profiadau.
“Dwi’n meddwl bod hynny wedi gwneud y cynhyrchiad yn rywbeth unigryw.”
Ychwanegodd y cynhyrchydd Branwen Williams: “Dyma gynhyrchiad cyntaf BBC STUDIOS i S4C ac mae’n fraint gan y cwmni i gynhyrchu rhaglenni Cymraeg i Gymru.
“Er mai stori am ferch yn dod yn fam ydy Anfamol, a’r holl heriau sy’n dod gyda hynny - mae gymaint mwy i’r ddrama hon y gall y gynulleidfa uniaethu gyda, beth bynnag eu rhywedd neu brofiad personol.”