Caerdydd: Dyn mewn 'cyflwr difrifol' wedi ymosodiad
Mae dyn 61 oed mewn cyflwr difrifol yn dilyn ymosodiad y tu allan i dafarn yng Nghaerdydd yn ystod oriau mân fore Sadwrn.
Cafodd y dyn ei gludo i’r ysbyty yn dilyn “ymosodiad difrifol” y tu allan i dafarn The Church Inn yn ardal Llaneirwg tua 01.00 y bore, meddai Heddlu'r De.
Cyhoeddodd y llu eu bod nhw'n chwilio am ddyn 28 oed mewn cysylltiad â'r digwyddiad.
Maen nhw’n annog unrhyw un a oedd yn yr ardal ar y pryd i gysylltu â nhw ar unwaith.
Dywedodd y Ditectif Ringyll Laura Slocombe: “Rydym yn gwybod bod pobl yn yr ardal adeg yr ymosodiad.
“Os nad ydyn nhw wedi siarad â swyddogion eto, rydym yn eu hannog i gysylltu.
“Mae’r dyn sydd o dan amheuaeth yn gwybod ein bod ni’n edrych amdano ac rydym yn ei annog i fynd i orsaf yr heddlu.”
Mae modd i unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu gan ddyfynnu’r cyfeirnod 2500138469.
Llun: Google Maps