Michael Gove yn gadael uwchgynhadledd ar ôl derbyn rhybudd coronafeirws

Michael Gove
Roedd yn rhaid i Weinidog Swyddfa'r Cabinet adael yr uwchgynhadledd rithiol gyda holl arweinwyr y Deyrnas Unedig ddydd Iau ar ôl iddo gael gwybod y gallai fod wedi dod i gysylltiad â rhywun gyda Covid-19.
Yn ôl Golwg360, fe deithiodd Michael Gove i Bortiwgal gyda'i fab ar gyfer rownd terfynol Cynghrair y Pencampwyr rhwng Chelsea a Manchester City yn Porto.
Cafodd wybod drwy ap y Gwasanaeth Iechyd Gwladol y gallai fod wedi bod mewn cysylltiad â rhywun oedd â'r feirws.
Darllenwch y stori'n llawn yma.
Llun: Prif Weinidog y DU