Dyn a fu farw wrth weithio ar stadiwm newydd Everton wedi ei ddal mewn peirianwaith
Mae cwest wedi clywed fod dyn a fu farw wnaeth farw wrth weithio ar stadiwm newydd Everton wedi marw ar ôl cael ei ddal mewn peirianwaith.
Clywodd y cwest fod Michael Jones, 26, o Kirby yng Nglannau Mersi, wedi dioddef o anafiadau difrifol i’w ben pan gafodd ei ddal rhwng trawst a darn o beirianwaith.
Bu farw’r peiriannydd awyru ar 14 Awst ar ôl cael ei anafu yn Noc Bramley-Moore yn Lerpwl, lle mae stadiwm newydd Everton yn cael ei adeiladu.
Cafodd y cwest i’w farwolaeth ei agor ddydd Mercher yn Llys Gerard Majella, Lerpwl.
Dywedodd yr uwch grwner, Andrew Rebello: “Roedd Michael yn gweithredu peiriant pan gafodd ei ddal rhwng y trawst uwch ei ben a’r peiriant ei hun.”
Clywodd y llys, roedd Mr Jones yn gwisgo helmed, a gafodd ei ddifrodi yn y digwyddiad.
Ychwanegodd y crwner: “Sylwodd cydweithiwr fod lifft Michael wedi stopio. Fe wnaeth symud y lifft ymlaen ac yna gwelodd anafiadau difrifol Michael.
“Cafodd ei godi i’r llawr a chael cymorth cyntaf nes i ambiwlans gyrraedd.
“Bydd hwn yn ymchwiliad cymhleth a thechnegol iawn a fydd yn cymryd peth amser.”
Dywedodd Mr Rebello fod archwiliad post-mortem wedi'i gynnal ac y bydd adroddiad gan y patholegydd ar gael ar ôl canlyniadau tocsicoleg.
Mae Heddlu Glannau Mersi yn gweithio gyda'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch wrth ymchwilio i'r digwyddiad ac mae ymholiadau'r llu yn parhau.
Ar ôl marwolaeth Mr Jones, fe wnaeth ei deulu dalu teyrnged iddo.
Dywedodd ei deulu ei fod yn mwynhau gweithio ar y stadiwm gan ei fod wedi cefnogi Everton trwy gydol ei fywyd.
"Hoffem ddiolch i bawb am eu cefnogaeth barhaus. Rydym yn drist iawn bod ein mab annwyl, brawd, ewythr a ffrind Michael wedi marw.
"Roedd yn gefnogwr Everton trwy gydol ei fywyd ac roedd wedi ei gyffroi o gael gweithio ar y stadiwm newydd.
"Hoffem ddiolch i staff y GIG a chyd-weithwyr oedd wedi gwneud eu gorau dros Michael. Ni all geiriau gyfleu ein colled."