Newyddion S4C

Dau awdurdod lleol yng Nghymru i gydweithio â chynghorau yn Lloegr

30/08/2023
Powys

Mae dau awdurdod lleol yng Nghymru wedi cyhoeddi eu bod ar fin arwyddo cytundeb newydd "arloesol" mewn partneriaeth â chynghorau lleol cyfagos yn Lloegr. 

Fe fydd y bartneriaeth yn arwain at gydweithio rhwng Cynghorau Sir Fynwy, Powys, Sir Amwythig a Sir Henffordd. 

Yn ôl yr awdurdodau lleol, bwriad partneriaeth Y Gororau Ymlaen yw galluogi’r cynghorau sir i gydweithio, er mwyn "ymgeisio am gyllid gan Lywodraeth y DU ar gyfer prosiectau mawr a fydd o fudd i’r rhanbarthau i gyd". 

Ychwanegodd y cynghorau y bydd pob awdurdod yn parhau i gadw eu “hunaniaeth a'u hannibyniaeth ei hun,” ac y bydd y strategaeth newydd yn arwain at gydweithio pan fo budd ychwanegol i’r ddwy ochr. 

Mae'r meysydd o ddiddordeb yn debygol o gynnwys trafnidiaeth, sgiliau a thai, ochr yn ochr ag ynni, newid hinsawdd a chysylltedd digidol.  

‘Potensial mawr’

Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Powys, y Cynghorydd James Gibson-Watt: "Mae potensial mawr os gallwn gytuno i weithio ochr yn ochr â chydweithwyr yng Nghyngor Sir Fynwy, Sir Amwythig a Sir Henffordd.

"Mae'n adlewyrchu daearyddiaeth yr ardal ac ar yr un pryd, mae'n cydnabod rhai o'r pethau cyffredin rhyngom.  

"Mae wastad wedi bod cefnogaeth drawsffiniol i'n gilydd, felly mae'r bartneriaeth arfaethedig hon yn ddilyniant naturiol ac yn cyd-fynd yn gyfforddus â'r blaenoriaethau yn ein Cynllun Gwella Corfforaethol a Chydraddoldeb - Cryfach, Tecach, Gwyrddach.

"Rydym eisoes yn siarad â'r llywodraeth am y manteision y gall ein cydweithio eu cynnig.

"Rydym yn bwriadu llofnodi cytundeb a fydd yn cadarnhau'r trefniadau gweithredol rhwng y pedwar cyngor ym mis Hydref.  Fodd bynnag, nid oes unrhyw oblygiadau costau nac unrhyw beth yn ein hatal rhag gweithio gydag awdurdodau a phartneriaid eraill ar unrhyw adeg nawr neu yn y dyfodol."

‘Cydweithio’

Mae’r awdurdodau lleol yn rhagweld y byddai cydweithio yn y modd yma yn cynyddu buddsoddiad cyffredinol Llywodraeth y DU, gan "ddatgloi miliynau o bunnoedd ar gyfer mentrau sy’n cefnogi economi wledig a thwf gwyrdd y Gororau", meddai Arweinydd Cyngor Sir Powys. 

Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Fynwy, y Cynghorydd Mary Ann Brocklesby: “Ein nod yw darparu fforwm i sefydlu fframwaith cydweithio rhwng yr ardaloedd cysylltiedig hyn o Gymru a Lloegr, gan gydweithio i fynd i’r afael â buddiannau a rennir yn drawsffiniol a hybu buddsoddiad yn y rhanbarth.”

“Fel awdurdodau lleol cyfagos, rydym wedi ein rhwymo gan ddiben cyffredin sy’n seiliedig ar ein natur wledig. 

“Gwyddom fod llifoedd sylweddol o bobl ar y ffin rhwng Canolbarth Cymru a Lloegr ym mhob maes, gan gynnwys gofal iechyd, addysg, datblygu sgiliau, swyddi a darparu gwasanaethau. 

“Mae llawer o ffactorau, gan gynnwys cyfleustra daearyddol, yn gyrru’r symudiad trawsffiniol.”

Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Henffordd, y Cynghorydd Jonathan Lester: “Mae hyn yn cyfle gwych i gydweithio gyda'n cymdogion ac i fynd i’r afael â’r materion mawr sy’n bwysig i ni gyd.

“Dwi’n croesawu’r cyfle yma i sicrhau cysylltiadau trawsffiniol i'n helpu i ni ganolbwyntio ar sawl mater gyda’n gilydd,” meddai. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.