Arestio nifer o bobl am drosedau cyffuriau honedig ym Mhwllheli
29/08/2023
Yn dilyn gweithredu gwarantau cyffuriau ym Mhwllheli yn ddiweddar, fe wnaeth Heddlu'r Gogledd gynnal cyrchoedd yn yr ardal ar 24 Awst.
Y bwriad oedd atal troseddwyr rhag gweithredu yn yr ardal medd yr heddlu.
Cafodd dau berson eu harestio ar amheuaeth o fod yn ymwneud â chyflenwi cyffuriau dosbarth A, cafodd un unigolyn ei arestio ar amheuaeth o feddiant a chyflenwi cyffuriau Dosbarth B a throseddau moduro, ac fe gafodd tri o bobl eu harestio ar amheuaeth o yrru o dan ddylanwad cyffuriau.
Cafodd un safle ei ddiogelu oherwydd gofidion lleol, ac fe riportiwyd dau yrrwr am fod heb yswiriant.
Llun: Heddlu'r Gogledd