Cyffur iselder ôl-enedigol 'yn dangos buddiannau hirdymor'
Rhaid gwneud mwy i sicrhau y gall mamau newydd gael mynediad cyflym at gyffuriau gwrth-iselder pan fo angen, yn ôl ymchwilwyr.
Mae astudiaeth newydd wedi darganfod manteision ychwanegol i’r cyffur.
Mae rhwng 10 a 15% o fenywod yn y DU yn dioddef iselder ôl-enedigol yn y flwyddyn gyntaf ar ôl i'w plentyn gael ei eni, ond dim ond 3% sy'n cael cyffuriau gwrth-iselder meddai arbenigwyr.
Dangosodd yr astudiaeth bod gan tua 8,671 o famau iselder ôl-enedigol, pan oedd eu babi’n chwe mis oed a chafodd 177 o’r rhain driniaeth SSRI ôl-enedigol.
Roedd yr astudiaeth hefyd yn bwrw golwg ar y cyfnod pan roedd y plentyn yn flwydd a hanner oed, ac eto pan roedd yn dair a phump oed.
Mae arbenigwyr yn dweud fod triniaeth SSRI ar gyfer iselder ôl-enedigol yn mynd law yn llaw â chanlyniadau gwell pan oedd y plentyn yn bum mlwydd oed.
Roedd plant mamau a ddefnyddiodd SSRI i drin iselder ôl-enedigol yn llai tebygol o fod â phroblemau ymddygiad ac ymddygiad gwrthgymdeithasol pan oeddent yn bump oed, o gymharu â phlant i famau ag iselder ôl-enedigol ond oedd heb gael triniaeth.
Roedd y plant hyn yn llai tebygol o gael symptomau ADHD (anhwylder, diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd).
Ac roedd gan famau a gymerodd y driniaeth SSRI lai o risg o iselder bum mlynedd ar ôl rhoi genedigaeth.
'Buddiannau hirdymor'
Dywedodd ymchwilwyr fod y canfyddiadau’n awgrymu y gallai triniaeth SSRI ddarparu “buddiannau tymor canolig i hirdymor” i fenywod sy’n dioddef o iselder ôl-enedigol.
“Mae iselder ôl-enedigol yn anhwylder seiciatrig cyffredin sy’n effeithio ar 10 i 15% o fenywod yn y flwyddyn gyntaf ar ôl genedigaeth,” meddai Dr Kate Liu, cydymaith ymchwil yn King’s IoPPN ac awdur cyntaf yr astudiaeth.
“Fodd bynnag, dim ond 3% o fenywod ag iselder ôl-enedigol sy’n cael triniaeth SSRI yn y DU.
“Mae hyn yn debygol o fod oherwydd diffyg ymwybyddiaeth o iselder ôl-enedigol, ynghyd â phryderon am yr effaith hirdymor y gall cymryd meddyginiaethau gwrth-iselder yn y cyfnod ôl-enedigol ei chael ar ganlyniadau plant.
“Ni chanfu ein hastudiaeth unrhyw dystiolaeth a oedd yn awgrymu bod triniaeth SSRI ôl-enedigol yn peri risg uwch i ddatblygiad plentyn. Mewn gwirionedd, daethom i'r casgliad fod triniaeth SSRI ôl-enedigol yn lleihau iselder mamau ac anawsterau ymddygiad plant sy’n gysylltiedig ag iselder ôl-enedigol.”
'Salwch meddwl difrifol'
Dywedodd Dr Tom McAdams, uwch gymrawd ymchwil Ymddiriedolaeth Wellcome yn King’s IoPPN ac uwch awdur yr astudiaeth: “Nid yw iselder ôl-enedigol yn cael ei gydnabod na’i drin yn ddigonol.
“Mae’n hollbwysig ein bod yn ei weld fel salwch meddwl difrifol, gan mai dyna yw e, a sicrhau ei fod yn cael ei drin yn iawn i liniaru rhai o’r canlyniadau negyddol cysylltiedig mewn mamau, plant a’r teulu ehangach."