Newyddion S4C

Darganfod mwydyn byw mewn ymennydd menyw yn Awstralia

29/08/2023
Mwydyn byw

Fe gafodd meddygon yn Awstralia gryn sioc wrth ddarganfod mwydyn byw tu fewn i ymennydd menyw yn Awstralia. 

Dyma yw’r tro cyntaf i ddigwyddiad o’r fath gael ei gofnodi, a hynny ar ôl i feddygon yn Ysbyty Canberra a gwyddonwyr o Brifysgol Genedlaethol Awstralia ganfod y mwydyn 8cm yng nghorff y fenyw. 

Fe gafodd y mwydyn ophidascaris robertsi ei dynnu’n fyw o ymennydd y fenyw wedi iddi dderbyn llawdriniaeth.

Roedd arbenigwyr hefyd yn amau bod larfa’r mwydyn wedi heintio organau eraill yng nghorff y fenyw, gan gynnwys ei hysgyfaint a’i hiau.

“Dyma'r achos o ophidascaris dynnol cyntaf erioed,” meddai Sanjaya Senanayake, arbenigwr clefydau heintus yn Ysbyty Canberra mewn datganiad.

“Hyd y gwyddom ni, dyma'r achos cyntaf erioed yn ymwneud ag ymennydd rhywogaeth mamal, yn ddynnol neu fel arall.

“Fel arfer, mae larfa’r mwydyn yn cael eu canfod mewn mamaliaid bach neu foldogion ('marsupials'), sy’n cael eu bwyta gan nadroedd gan alluogi cylch bywyd y mwydyn i'w gwblhau yng nghorff y neidr.” 

‘Symptomau’

Cafodd y mwydyn ei ganfod wedi i’r fenyw dioddef symptomau oedd yn cynnwys poen yn yr abdomen, peswch a methu anadlu. Cafodd ei chludo i’r ysbyty yn 2021 wedi i’w symptomau waethygu dros gyfnod o dair wythnos. 

Erbyn 2022, roedd y fenyw yn dioddef gyda chof gwael ac iselder. Cafodd sgan MRI a wnaeth ddangos friw ar ei hymennydd. Fe gafodd y mwydyn ei ganfod yn fuan wedyn yn dilyn llawdriniaeth. 

Mae’r mwydyn ophidascaris robertsi fel arfer yn cael ei g anfod tu fewn i gorff y neidr ‘carpet python.’

Mae’n debyg fod y fenyw wedi ei heintio drwy laswellt brodorol, sef Warrigal greens, pan aeth i'w gasglu ac yna ei goginio. 

Mae’r gwair yn gartref i nadroedd a fyddai wedi darparu wyau’r paraseit yn eu hysgarthion. 

Mae’r fenyw yn parhau i gael ei monitro gan arbenigwyr, a hynny ar ôl iddi ddioddef gyda pneumonia yn dilyn haint y mwydyn.

Llun: ANU.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.