Dynes wedi marw mewn gwrthdrawiad yn Aberystwyth
29/08/2023
Mae dynes wedi marw mewn gwrthdrawiad yn Aberystwyth ddydd Sul.
Bu farw’r ddynes ar Heol Tyn-y-fron ym Mhenparcau am tua 14.30 yn ôl Heddlu Dyfed-Powys.
Un cerbyd oedd yn y gwrthdrawiad, sef fan wen Vauxhall Vivaro.
Fe ddioddefodd y ddynes anafiadau angheuol yn y digwyddiad.
Mae swyddogion Heddlu Dyfed-Powys yn apelio am lygad-dystion neu unrhyw un sydd gyda lluniau dashcam neu luniau fideo cloch y drws i gysylltu gyda'r llu wrth i'w hymchwiliad barhau.
Llun: Google