Newyddion S4C

Menyw a wnaeth golli ei gŵr i diwmor ar yr ymennydd cyn dioddef o lewcemia yn dathlu degawd o wellhad

29/08/2023
Michelle Stirling

Mae menyw a gafodd ddiagnosis o ganser angheuol ar ôl colli ei gŵr i diwmor ar yr ymennydd, syrthio 40 troedfedd oddi ar glogwyn, ac a ddaeth yn ddigartref tra’n cael triniaeth, wedi dathlu mwy na degawd o wellhad.

Bwriad Michelle Sterling, 63 o Dde Cymru yw i deithio a mwynhau bywyd hyd nes iddi yn cael ei haduno â’i theulu sy’n “aros” amdani yn y nefoedd.

Ym mis Tachwedd 2012, yn 52 oed fe wnaeth Michelle Sterling alw am ambiwlans wedi iddi brofi poen difrifol yn ei brest, ond ar ôl cael ei hanfon i ffwrdd â gwrthfiotigau ar gyfer haint ar y frest, roedd hi'n teimlo “cywilydd” o wastraffu adnoddau’r GIG.

Ychydig oriau’n ddiweddarach, clywodd guro’n uchel a pharhaus wrth ei drws ffrynt, dim ond i ddod o hyd i blismyn yn egluro bod angen iddynt fynd â hi yn ôl i’r ysbyty ar unwaith, gan fod y nyrs wedi ei rhyddhau cyn aros am ganlyniadau ei phrofion gwaed.

Ar ôl dychwelyd i'r ysbyty, fe wnaeth Mrs Stirling darganfod fod ganddi lewcemia terfynol - math o ganser y gwaed - ac y byddai angen cemotherapi a rhoddwr bôn-gelloedd i oroesi.

Gan ei bod wedi colli ei gŵr Edward i diwmor ar yr ymennydd wyth mlynedd ynghynt ac nad oedd ganddi unrhyw blant, dywedodd nad oedd ots ganddi a oedd hi'n byw neu'n marw ar yy pryd - ond roedd yn gwybod bod rhaid iddi geisio oroesi.

“Roeddwn i’n meddwl na fyddai fy ngŵr byth yn maddau i mi pe na bawn i wedi ceisio goroesi oherwydd fe wnaeth ef geisio goroesi,” meddai.

“Ond i mi, 'dw i ddim yn poeni dim os fyddai yn marw; mae fy ngŵr yno, mae fy rhieni yno, mae fy nheulu yno yn aros amdanaf (yn y nefoedd).”

Nid oedd “erioed wedi bod yn un i fynd at y meddygon”, ond yn 2011, roedd ei ffrindiau’n credu y gallai fod yn cael strôc oherwydd ei symptomau, ac fe wnaeth hi ddarganfod bod firws yn “ymosod” ar ei chalon.

Image
Michelle Stirling
Llun: PA

Dywedodd Michelle oni bai am y firws mae'n debyg y byddai hi wedi osgoi mynd i'r ysbyty ac yn y pen draw wedi marw o lewcemia gan nad oedd hi'n arddangos symptomau cyffredin.

Yn dyst i frwydr ei gŵr â thiwmor ar yr ymennydd, roedd Michelle yn betrusgar i dderbyn triniaeth ei hun, ond y noson honno dechreuodd ei chemotherapi dyddiol trwy ddrip.

Dywedodd fod pob rhan o’i chorff yn brifo, ac i wneud pethau’n waeth, cafodd ei “chicio allan” o’r ystafell yr oedd yn ei rhentu wrth gael triniaeth.

“Penderfynodd y ddynes nad oedd hi eisiau cael canser yn y tŷ, ac roedd hynny’n dipyn o ergyd oherwydd roedd rhaid i mi wedyn ddod o hyd i rywle arall i fi a fy nghi,” meddai.

Misoedd o driniaeth

Fe wnaeth Mrs Stirling ddechrau triniaeth yr un diwrnod, a chael cemotherapi dwys dyddiol am y mis canlynol.

Roedd ei gwallt yn syrthio allan o fewn pedwar diwrnod ac roedd hi'n teimlo ei bod yn “llosgi.”

Ar ben hynny, cafodd ei gyrru allan o’r fflat oedd yn ei rentu ar y pryd, gan ei bod wedi gwerthu ei chartref hi a’i gŵr, gan olygu ei bod i bob pwrpas yn ddigartref dros dro.

Treuliodd tua thri mis i mewn ac allan o’r ysbyty i gyd, yn derbyn triniaeth cemotherapi a datblygodd heintiau ar y frest dro ar ôl tro a chafodd lawdriniaeth frys yn y diwedd.

Ond erbyn diwedd ei rownd gyntaf o driniaeth yn Ysbyty Athrofaol Cymru, cafodd ei rhyddhau – ac mae hi bellach wedi mynd o “ganser angheuol i fyw 10 mlynedd”.

Mae’n gobeithio parhau i deithio, treulio amser gyda’i ffrindiau, a cherdded ei chŵn – ac mae’n credu bod meddwl yn gadarnhaol wedi bod yn “hanner y frwydr” i’w helpu i oroesi.

“Mae yna ddyddiau lle dwi’n meddwl, ‘Roedd y GIG yn anhygoel, rydw i mor ffodus fy mod wedi byw yn y wlad hon’, oherwydd pe bawn i wedi byw yn unrhyw le arall, mae’n debyg y byddwn i wedi marw,” meddai.

“Wnes i ddim dewis byw ar ben fy hun, wnes i ddim dewis cael lewcemia, felly dwi'n meddwl y ffordd ges i fy magu, mae'n rhaid i chi fwrw ymlaen ag ef.

“Dw i’n berson ‘mae’r gwydr yn llawn math o berson, ac fe ddown ni drwyddo’… dwi’n meddwl bod eich meddylfryd yn hanner y frwydr weithiau.”

'Gŵr ryfeddol'

Dywedodd Michelle fod ei gŵr “rhyfeddol” Edward yn “gymeriad” ac yn “fywyd ac enaid y parti.”

Ar ôl iddo farw yn 2004 yn dilyn chwe blynedd o driniaeth ar gyfer tiwmor ar yr ymennydd, penderfynodd Michelle fynd i deithio, gan ymweld â lleoedd fel Antarctica, Tsieina, ac Alaska, cyn cofrestru ar gwrs daeareg ym Mhrifysgol De Cymru.

Yn haf 2010, yn ystod penwythnos yn dathlu parti plu yn Benidorm, roedd Michelle yn teimlo’n “ddig iawn” gyda'i gŵr a phenderfynodd eistedd ar graig ar ben clogwyn, i ffwrdd o’r ymyl, a gwylio’r haul yn machlud.

Image
Michelle Stirling
Michelle Stirling gyda'i gŵr, Ed. Llun: PA

Aeth i sefyll ar ei thraed ond fe lithrodd rhan o'r clogwyn – ac yn rhyfeddol, er iddi lanio ar ei chefn ar ôl cwympo 40 troedfedd, fe oroesodd ac ni thorrodd unrhyw esgyrn.

“Roeddwn i’n gwybod nad oedd unrhyw beth wedi’i ddifrodi, doedd dim esgyrn yn sticio allan, ond roedd gen i glais am flwyddyn gyfan.”

Goroesi a gorfoleddu

Daeth ffrindiau Michelle at ei gilydd a’i helpu i sicrhau llety, ac er na allai meddygon ddod o hyd i roddwr ar gyfer trawsblaniad mêr esgyrn, roedd Michelle yn gwella dros dro o fewn tua chwe wythnos i ddechrau’r driniaeth – a mwy na degawd yn ddiweddarach, mae hi wedi gwella'n llawn.

“Mae fy ffrindiau bob amser yn chwerthin, ac maen nhw'n dweud, 'Wel, nid yw Ed eisiau chi i fyny yna eto, mae'n cael ychydig o heddwch ar ei ben ei hun hebddo chi,' felly fe helpodd fi i oroesi."

Er bod ganddi bellach “fywyd gwahanol” i’r un yr oedd wedi’i gynllunio, dywedodd fod newid ei bywyd wedi dod yn “normal."

“Fe brynais i gartref, mae gen i ddau gi hyfryd, mae gen i ffrindiau gwych, ac rydw i'n teimlo'n ffodus bod gen i ŵr gwych - dwi'n meddwl mai dyna sut rydych chi'n edrych ar y byd,” meddai.

“Byddwn yn annog pobl i wirio unrhyw symptomau sy’n peri pryder, ac i bobl sy’n mynd trwy unrhyw ganser ar y funud, mewn gwirionedd, hanner y driniaeth honno yw chi a phwy ydych chi fel person, a’ch awch am fywyd.

“Efallai bod pobl eraill wedi ei chael hi’n anoddach, ond i mi, roedd yn union fel pennod arall o fy llyfr anhygoel.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.