Newyddion S4C

Cyflwyno cwrs am sgîl-effeithiau chemotherapi yng Nghymru wedi llwyddiant yn yr Alban

29/08/2023
chemotherapi

Bydd cwrs am sgîl-effeithiau chemotherapi yn cael ei gyflwyno yng Nghymru gan elusen cymorth canser ar ôl llwyddiant y cynllun yn yr Alban.

Mae'r cyflwr sy’n effeithio ar y cof wedi chemotherapi yn cael ei adnabod yn swyddogol fel Newid Gwybyddol sy’n gysylltiedig â Chanser (CRCC),

Gall rhai o’r sgîl-effeithiau eraill gynnwys arafwch wrth brosesu gwybodaeth, ac mae hefyd yn medru effeithio ar rai sgiliau cynllunio a threfnu.

Bydd y cwrs, Newidiadau Cof a Chanolbwyntio ar ôl Triniaeth Canser (MCCCT), yn cael ei gyflwyno ledled Cymru gan yr elusen ganser Maggie’s.

Daw hyn wedi llwyddiant y cwrs yn wyth o ganolfannau'r elusen ar hyd a lled yr Alban.

Cafodd y cwrs ei ddatblygu gan seicolegwyr y GIG yn Glasgow a Clyde mewn partneriaeth â Macmillan, Maggie’s, GIG yr Alban ac Addysg GIG yr Alban fel rhan o’r rhaglen Trawsnewid Gofal ar ôl Triniaeth, yn 2016/17.

Cafodd effeithiolrwydd y cwrs ei brofi gan Andrea Joyce, seicolegydd iechyd dan hyfforddiant ym Mhrifysgol Glasgow.

Dywedodd: “Roedd pawb siaradais i â nhw, o'r farn bod y cwrs yn ddefnyddiol.

“Roedd y fformat yn galluogi pawb i rannu gwybodaeth a phrofiadau o’u triniaethau. Dywedodd rhai bod y cwrs yn helpu eu teimladau o fod yn unig.

'Pwerus'

Dywedodd prif seicolegydd yr elusen Maggies, Lesley Howell: “Mae'r cyflwr yn gallu effeithio ar bobl sydd erioed wedi cael chemotherapi ond sydd wedi cael triniaethau canser eraill.

“Gall olygu bod hyd yn oed tasgau syml bob dydd fel darllen llyfr yn gallu bod yn anodd.

“Rydym wedi gweld pa mor bwerus y gall cyrsiau fel hyn fod, yn helpu pobl i oresgyn y problemau hyn.

“Rydym yn falch iawn i gyflwyno’r cwrs hwn ledled y DU i helpu cynifer o bobl â phosibl sy’n byw gyda phroblemau cof a gweithrediad yr ymennydd a achosir gan driniaeth canser.”

Dywedodd Dellasie, 31, a gafodd ddiagnosis o ganser y fron yn 2019, fod 'chemo brain' yn dal i effeithio arni flynyddoedd yn ddiweddarach a'i bod yn aml yn anghofio pethau.

Esboniodd: “Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf bu rhai achosion lle’r wyf wedi gadael y popty ymlaen a dod yn ôl i fy nhŷ yn llawn arogl mwg.

“Rwy’n meddwl y byddai’r cwrs hwn yn ddefnyddiol iawn.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.