Teyrngedau i nain a thaid a fu farw ar ôl gyrru trwy lifogydd
Mae teyrngedau wedi'u rhoi i nain a thaid a fu farw ar ôl gyrru i mewn i lifogydd ar ffordd yn Lerpwl, a hynny ddyddiau yn unig cyn dathlu 54 o flynyddoedd o fywyd priodasol.
Cafodd Elaine Marco, 75, a Philip Marco, 77, eu darganfod y tu mewn i gar Mercedes du yn ardal Mossley Hill tua 9.20 nos Sadwrn. Cafodd y ddau eu cludo i ysbyty gerllaw, ond daeth cadarnhad yno eu bod wedi marw.
Mewn datganiad, dywedodd eu teulu mai'r 'unig gysur' oedd eu bod gyda'i gilydd hyd y diwedd.
“Mae'n calonnau wedi torri yn sgil colli Elaine a Philip Marco mor sydyn,” meddai'r teulu.
“Roedden nhw yn rhieni a oedd yn cael eu caru gan eu pedwar o blant a'u 10 o wyrion.
“Yn eu galar, mae'r teulu yn y broses o gyrraedd o America ac Awstralia.
“Roedd y ddau i fod i ddathlu eu pen-blwydd priodas yr wythnos nesaf, a'r unig gysur ydy gwybod eu bod gyda'i gilydd hyd y diwedd."
Mewn datganiad yn gynharach ddydd Llun, dywedodd Heddlu Glannau Mersi y bydd y ffordd ar gau am gryn amser eto.
Ychwanegodd llefarydd ar ran Cyngor Dinas Lerpwl eu bod yn meddwl am y teulu.
Dywedodd llefarydd ar ran cwmni United Utilities, sy'n darparu dŵr i'r ardal, nad oedd trafferthion yn gysylltiedig a'u systemau nhw yno.