Newyddion S4C

Amy Dowden: Diagnosis sepsis yng nghanol triniaeth canser

28/08/2023
Amy Dowden

Mae seren Strictly Come Dancing Amy Dowden wedi datgelu iddi gael diagnosis sepsis a oedd yn 'bygwth ei bywyd' yng nghanol ei thriniaeth ar gyfer canser. 

Dywedodd iddi gael triniaeth mewn uned gofal dwys, ar ôl ei chyfres gyntaf o driniaethau chemotherapi yn gynharach y mis hwn.  

Nododd ar Instagram: “ Fe dreuliais i sawl diwrnod mewn ysbyty, o dan ofal tîm ICU."

Fis Mehefin, cyhoeddodd AmyDowden, 33, iddi gael mastectomi ar ôl darganfod fod ganddi ganser y fron.   

Dywedodd y ddawnswraig a gafodd ei geni yng Nghaerffili bod meddygon wedi dod o hyd i fath arall o ganser hefyd, ac mae hi wedi bod yn rhannu ei phrofiadau yn y gobaith o hybu ymwybyddiaeth ac annog eraill i gadw golwg ar unrhyw newidiadau yn eu cyrff.  

Wrth gyfeirio at y pryderon diweddaraf yn sgil sepsis, dywedodd wrth gylchgrawn Hello! iddi ddechrau deimlo'n sâl ddeuddydd wedi ei chyfres gyntaf o chemotherapi, gan ddechrau datblygu tymheredd uchel. 

Mae sepsis yn digwydd pan fydd y corff yn ymateb i haint trwy ymosod arno'i hun yn hytrach na brwydro'n erbyn yr haint.

Ychwanegodd: “Roedd fy nhymheredd yn 37.7 gradd Selsiws.

“Ar y pryd, doeddwn i ddim yn sylweddoli bod tymheredd uwch na 37.5 yn beryglus iawn ar gyfer claf yn cael chemo. Roeddwn yn credu mai ymateb i'r chemo oeddwn i, ond roeddwn i wedi datblygu haint."  

 “Cystylltodd mam a dad â'r tim chemotherapi, ac fe ddywedwyd wrthyn nhw i ffonio ambiwlans yn syth.”

“Doeddwn i ddim eisiau mynd i'r ysbyty; ar y pryd doeddwn i ddim yn sylweddoli pa mor sâl oeddwn i.

“Roeddwn i'n gwybod ei bod yn nos Sadwrn, ac yn dyfalu bod yr adran frys o dan ei sang, a pherygl i mi ddal haint gan eraill  

“Tra ar chemo, nid oes gennych gelloedd gwyn i frwydro yn erbyn haint. Ond ry'n ni bellach yn gwybod fod yr haint gen i cyn i mi ddechrau chemo, ond dyden ni ddim wedi darganfod beth yn union achosodd hynny.”

Ychwanegodd Amy Dowden wrth y cylchgrawn bod y meddygon a'r nyrsys wedi dweud wrthi fod ganddi sepsis a bod hynny yn medru bygwth bywyd.

Bu'n rhaid iddi dreulio ei phen-blwydd ar 10 Awst mewn ysbyty, ar ôl i'w thymheredd godi unwaith yn rhagor. Ond mae hi bellach yn gwella yn ei chartref ac wedi llwyddo i ailgydio yn ei thriniaeth chemotherapi. 

O ganlyniad, mae hi wedi dechrau colli ei gwallt. Mae hi yn dal yn obeithiol y gall ymddangos ar gyfres nesaf Strictly Come Dancing ar BBC 1. 

Dywedodd fod y tîm ar y rhaglen wedi bod yn anhygoel.

“Ry'n ni'n cymryd pethau gam wrth gam," meddai. 

“A Strictly yw'r tonig 'dw i angen." 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.