Erlynwyr yn agor ymchwiliad cam-drin rhywiol yn achos Llywydd Ffederasiwn Pêl-droed Sbaen
Yn ôl adroddiadau o Sbaen, mae erlynwyr wedi agor ymchwiliad rhagarweiniol, a fydd yn ystyried a oedd cusan Llywydd Ffederasiwn Pêl-droed Sbaen, Luis Rubiales yng Nghwpan y Byd yn ymosodiad rhywiol.
Mae LuisRubiales, 46, wedi ei feirniadu ar ôl iddo gusanu’r blaenwr Jenni Hermoso ar ei gwefusau wedi buddugoliaeth Sbaen yn rownd derfynol Cwpan y Byd Menywod.
Brynhawn Llun, bydd Ffederasiwn Pêl-droed Sbaen yn cynnal cyfarfod brys wedi i'w llywydd gael ei wahardd gan FIFA oherwydd y gusan.
Mae Luis Rubiales wedi gwrthod ymddiswyddo.
Mae chwaraewyr a llu o hyfforddwyr timau menywod wedi galw arno i gamu o'r neilltu. Fe wnaeth 11 aelod o'r tîm hyfforddi ymddiswyddo ddydd Sul.
Mae 81 o chwaraewyr hefyd wedi cadarnhau na fyddan nhw'n chwarae i dîm cenedlaethol Sbaen nes i Rubiales adael ei swydd.
Yn sgîl y digwyddiad mae Ffederasiwn Pêl-droed Sbaen wedi galw ffederasiynau rhanbarthol i’r cyfarfod brys.
Mae disgwyl i Weinidog Llafur Sbaen, Yolanda Diaz gwrdd â chynrychiolwyr undeb chwaraewyr y merched FUTPRO ddydd Llun, undeb sy’n cynrychioli Hermoso, a Chymdeithas Pêl-droedwyr Sbaen i sicrhau bod pêl-droed yn sector “sydd ag amodau gweddus a gofod sy’n rhydd o drais rhywiaethol”.
Mae FIFA wedi dwyn achos disgyblu yn erbyn Luis Rubiales wedi iddo gusanu'r ymosodwr ar ei gwefusau yn dilyn y fuddugoliaeth dros Loegr.
Dywedodd Rubiales, 46, y byddai'n defnyddio'r achos yn ei erbyn gan FIFA i ddangos ei fod yn ddieuog.
Ni all llywodraeth Sbaen ddiswyddo Rubiales ond mae wedi beirniadu ei weithredoedd ac yn ceisio ei wahardd trwy ddefnyddio gweithdrefn gyfreithiol o flaen tribiwnlys chwaraeon.
Llun: BBC