Newyddion S4C

Hyfforddwr Sbaen yn beirniadu cusan ‘amhriodol’ Luis Rubiales

27/08/2023
cusan Rubiales Hermoso

Mae hyfforddwr tîm pêl-droed menywod Sbaen Jorge Vilda wedi disgrifio’r ffrae dros gusan ar ôl i’w dîm ennill Cwpan y Byd fel “nonsens llwyr” sydd wedi “tynnu sglein oddi ar fuddugoliaeth haeddiannol”.

Daw ei sylwadau ar ôl i FIFA wahardd llywydd Ffederasiwn Pêl-droed Sbaen, Luis Rubiales, am 90 diwrnod wedi iddo gusanu’r chwaraewr Jenni Hermoso ar ôl ffeinal Cwpan y Byd merched.

Roedd Rubiales wedi cefnogi Vilda y llynedd pan dynnodd 15 o chwaraewyr yn ôl o garfan Sbaen gan honni fod rheolaeth Vilda yn effeithio eu hiechyd a’u cyflwr emosiynol.

Ychwanegodd Vilda fod buddugoliaeth Sbaen wedi ei “niweidio” gan ei ymddygiad “amhriodol”.

Ddydd Sul dywedodd ffederasiwn pêl-droed Sbaen eu bod nhw bellach wedi lansio ymchwiliad mewnol ar ôl i’w protocol trais rhywiol gychwyn yn dilyn cwyn.

Ddydd Sadwrn fe wnaeth FIFA, y corff llywodraethu pêl-droed byd-eang, Luis Rubiales dros dro tra eu bod nhw'n cynnal ymchwiliad i'w ymddygiad wedi iddo gusanu chwaraewr ar ôl ffeinal Cwpan y Byd merched.

Mewn datganiad, dywedodd FIFA eu bod nhw wedi gwahardd Mr Rubiales "o bob gweithgaredd sy'n gysylltiedig â phêl-droed ar lefel cenedlaethol a rhyngwladol" am 90 diwrnod yn y lle cyntaf wrth aros am yr ymchwiliad.

Yn hwyrach ddydd Sadwrn fe wnaeth 11 o staff hyfforddi Sbaen o Gwpan y Byd ymddiswyddo heblaw am Jorge Vilda.

Roedd yr is-reolwyr Montse Tome, Javier Lerga a Eugenio Gonzalo Martin ynghyd â’r ymgeleddwr Blanca Romero Moraleda  a hyfforddwr y golwyr Carlos Sanchez wedi rhoi’r gorau i’w swyddi.

Dywedodd Ffederasiwn Pêl-droed Sbaen eu bod nhw’n bwriadu dwyn achos cyfreithiol dros sylwadau'r chwaraewr Jenni Hermoso yn erbyn Luis Rubiales.

Dywedodd Jenni Hermoso ei bod hi heb gydsynio i gael ei chusanu gan y llywydd ar ôl ffeinal Cwpan y Byd merched yn erbyn Lloegr, ond mae’r ffederasiwn yn cwestiynu hynny gan honni fod Hermoso yn dweud "celwydd".

Mae FIFA wedi dwyn achos disgyblu yn erbyn Luis Rubiales wedi iddo gusanu'r ymosodwr ar ei gwefusau yn dilyn y fuddugoliaeth dros Loegr.

Mae 81 o chwaraewyr hefyd wedi cadarnhau na fyddan nhw'n chwarae i dîm cenedlaethol Sbaen nes iddo gael ei dynnu o'i swydd.

Mae Luis Rubiales wedi gwrthod ymddiswyddo.

Ychwanegodd y Ffederasiwn: “Mae’r dystiolaeth yn bendant, mae’r Llywydd heb ddweud celwydd.”

Dywedodd tîm pêl-droed Lloegr fod y weithred yn "annerbyniol".

Dywedodd Gwennan Harries, cyn-chwaraewr Cymru, wedi croesawu penderfyniad FIFA.

Dywedodd: "Ie, bles iawn i weld bod FIFA wedi camu mewn, fi'n credu o'dd angen. O'dd popeth, yn amlwg, yr holl ddigwyddiad yn annerbyniol. Ond mae'r ffordd maen nhw fel cymdeithas bêl-droed wedi ymateb ynn dangos yn glir y problemau sydd yn y system."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.