
‘Angen mwy o ymwybyddiaeth’ o arwyddion ceulad gwaed

‘Angen mwy o ymwybyddiaeth’ o arwyddion ceulad gwaed
Mae partner menyw ifanc wnaeth golli ei bywyd ar ôl dioddef ceulad gwaed (blood clot) yn galw am fwy o ymwybyddiaeth o’r arwyddion.
Fis Ionawr eleni, bu farw Gemma Harries o Nantgaredig, yn 31 oed, yn dilyn cael ceulad gwaed yn ei choes.
Ddeufis yn flaenorol, fe wnaeth Gemma gael anaf gan dynnu ei phen-glin o’i le mewn parti plu, ac fe gafodd driniaeth mewn ysbyty yn Yeovil.
Ar ôl dychwelyd adref, fe wnaeth hi barhau i gael triniaeth yn Ysbyty Glangwili, ond nid oedd y chwydd yn diflannu.
Bu farw yng nghartref ei phartner, Joseff Edwards, yn Hendy-gwyn ar ôl cael emboledd ysgyfeinol (pulmonary embolism) a thrombosis gwythiennau dwfn (deep vein thrombosis).

Ddydd Sadwrn, 19 Awst, fe gafodd gêm rygbi gyfeillgar a chyngerdd eu cynnal er cof am Gemma.
Mae Joseff yn credu, petai mwy o bobl yn gwybod am arwyddion ceulad gwaed, y gallai pethau wedi bod yn wahanol iawn.
‘Angen mwy o ymwybyddiaeth’
“Ry’n i eisiau trial cael mwy o ymwybyddiaeth am beth i edrych mas amdano am glotiau gwaed,” meddai.

“Yn ysgol neu mewn bywyd- rwyt ti’n [dysgu i] edrych mas am strôc neu drawiad ar y galon. Does dim byd yn dy ddysgu di i edrych mas am beth sy’n digwydd gyda chlotiau gwaed.
“Mae pins and needles yn y goes, a chwyddo, pethau fel yna- mae’r rheina i gyd yn pwyntio at glotiau gwaed, ond do’n ni ddim yn gwybod hynny.”
Yn ôl y GIG, mae arwyddion ceulad gwaed yn cynnwys plyciau o boen, chwyddo, cochni a chynhesrwydd yn y fraich neu’r goes. Gall symptomau eraill gynnwys diffyg anadl sydyn, poen yn y frest, peswch neu beswch gwaed.
Y gred yw bod y digwyddiadau ddydd Sadwrn wedi codi tua £30,000 ar gyfer elusen, ac mae’r rhif yn cynyddu wrth i bobl barhau i gynnig rhoddion.
Yr elusennau sydd wedi cael eu dewis yw Ambiwlans Awyr Cymru a Phlant Dewi.
Dywedodd Joseff: “Roedd Gemma’n rili dda gyda phlant, so dyna pam ry’n ni wedi cael Plant Dewi ar restr yr elusennau. Wedyn, roedd Ambiwlans Awyr Cymru gyda ni ar y dydd o’n ni wedi colli Gemma.”
Clwb Rygbi Nantgaredig, lle mae tad Gemma’n gadeirydd, oedd yn fuddugol yn y gêm gan ennill 33-17, ac mae’r tîm wedi derbyn tlws er cof amdani.
“Wrth gwrs, mae Gemma’n dod o Nant, felly dwi’n meddwl byddai hi’n edrych lawr a dweud ‘haha, fe wnes i ddweud wrthot ti’ - ond roedd hi’n neis rhoi’r [tlws] i Nant rili.”
Mae trefnu digwyddiadau o’r fath wedi bod yn brofiad chwerw-felys i Joseff, ac un sy’n dod ag emosiynau cymysg.
“Mae’n neis i weld pawb yma yn cael sbort a phopeth ac mae gennym gyngerdd ac maen nhw’n joio. Ond wedyn, ry’n ni’n cofio am Gem.

“Dyna beth dwi eisiau cael mas o hyn yw bod mwy o bobl yn gwybod beth i edrych mas amdano a stopio clotiau gwaed rhag digwydd i bobl eraill.”